BLOG - Monthly Archives: Rhagfyr 2010

Posted - 23-12-2010

Heb ei gategoreiddio

LlGC ar Flickr Commons

 

The College Aberystwyth [ca. 1895]

The College Aberystwyth [ca. 1895

Ers dros flwyddyn bellach, rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect ‘Flickr Commons‘ y Llyfrgell Genedlaethol, a ddechreuodd fel cynllun peilot yn Ebrill 2009. Mae Flickr yn wefan lle mae’n bosib storio a rhannu delweddau ar-lein, ac mae ‘Flickr Commons’ yn ein galluogi i gyrraedd cynulleidfa ehangach, yn ogystal ag annog y defnydd a’r disgrifiad o’n casgliadau o ddelweddau digidol.

Nid oes gan y delweddau r’ym yn eu rhyddau ar ‘Flickr Commons’ unrhyw gyfyngiadau hawlfraint hysbys; fel arfer mae hyn yn golygu naill ai taw’r Llyfrgell Genedlaethol sy’n berchen ar yr hawlfraint, neu bod tymor cyfnod yr hawlfraint wedi dod i ben.

 Unwaith yr wythnos rwy’n uwchlwytho grwp o ddelweddau i ‘Flickr Commons’ o’n casgliad digidol ac yna’n ychwanegu gwybodaeth berthnasol a ddaw o gofnodion catalog y delweddau e.e. teitlau, ffotograffydd a dyddiadau. ‘Rwyf hefyd yn defnyddio penawdau testunol o’r cofnod catalog i greu ‘tagiau’ ar gyfer y delweddau. I fod yn onest, yn aml y peth anoddaf am hyn yw penderfynu pa ddelweddau i’w uwchllwytho – mae gymaint o ddewis ar gael! Hyd yn hyn, ‘rydym eisioes wedi uwchlwytho dros 600 o ddelweddau a gymerwyd o gasgliadau ffotograffig P.B. Abery, Geoff Charles a John Thomas, ac hefyd o’n casgliadau o Ffotograffau Mewn Casys a Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe.

Bechgyn o Drawsfynydd yn hel celyn ac uchelwydd, Rhagfyr 1959

Weithiau rydym yn defnyddio delweddau o’r casgliadau sy’n cyd-fynd â digwyddiadau neu dymhorau, e.e. ar hyn o bryd ceir ffotograffau sy’n ymwneud a’r Nadolig, a’n ffefryn i yw’r ffotograff gan Geoff Charles o’r bechgyn ifanc yn casglu celyn ac uchelwydd i’w gwerthu …

Beth sy’n wych am rannu ein casgliadau ar Flickr yw bod defnyddwyr eraill Flickr yn medru cyfoethogi’r delweddau drwy ychwanegu eu nodiadau eu hunain, sylwadau a thagiau, yn ogystal â’u nodi fel ‘ffefrynnau’, neu hyd yn oed ein gwahodd ni i ychwanegu’r delweddau i grwpiau eraill.

Gellwch ddod o hyd i’n tudalennau ‘Flickr Commons’ fan hyn: www.flickr.com/photos/llgc/.

Siân Medi Davies, Llyfrgellydd Cynorthwyol (Metadata), Is-adran Datblygiadau Digidol.

Posted - 22-12-2010

Blog Kyffin

Navidad, Asado a Papa Noel

Mae’r syniad o gael barbiciw ar ddydd Nadolig yn taro i’r dim ar Draeth Bondi neu’r hysbysebion ar y teledu, ond nid dyna sut mae’r Cymro fel arfer yn dathlu’r ?yl. Oherwydd bod yr Ariannin, fel Awstralia, yn Hemisffer y De mae’r Nadolig yn digwydd ganol haf.

Treuliodd Kyffin Nadolig 1968 yn y Wladfa. Cychwynnodd y dathliadau gyda gwers gelf fyrfyfyr mewn ysgol leol. Roedd y plant wrth eu bodd – yn cymeradwyo’n frwd ac yn syllu ar Kyffin eu harwr. Dilynwyd hyn gan gyngerdd Nadolig a drama’r geni yn Nhrefelin.

Ar ddydd Nadolig roedd Kyffin yn y Parque Nacional Los Alerces, yn lletya gyda Don Diego Neill, goruchwyliwr y Parc. Asado, sef barbiciw cig oen, gyda bara oedd y cinio Nadolig, a’i fwyta gyda chyfuniad o fforc, cyllell a’r bysedd. Mae bwyd sy’n cael ei fwyta yn yr awyr agored bob amser yn fwy blasus, ac roedd y profiad o fwyta’r cig oen melys yn y fath amgylchedd yn sicr o fod yn ddigwyddiad cofiadwy – ar yr ucheldir yng nghanol y pinwydd, yn edrych draw tuag at gopaon gwyn yr Andes. Dywedodd Don Diego Neill wrtho ei fod e’n edmygu ei wardeniaid Cymreig ond, gan eu bod yn byw eu bywydau yn ôl y Beibl, eu bod yn methu bod yn ddidostur. Os mai dyma un o’n nodweddion cenedlaethol heddiw gallaf feddwl am rai llawer gwaeth. Serch hynny, efallai y gallai Papa Noel roi tipyn bach o’r natur ddidostur i’n tîm rygbi yn 2011!

Nadolig Llawen / Merry Christmas / Feliz Navidad

William Troughton

Posted -

Casgliadau

Hel achau’r hen garolau

Fe genir nifer o garolau Cymreig tros gyfnod y Nadolig gan gredu eu bod yn hen iawn. Ystyrir nifer yn “draddodiadol”, hynny yw, wedi eu cyfansoddi – yn eiriau neu’n gerddoriaeth – gan rywun anhysbys yn y gorffennol pell, a’u diogelu ar lafar gan genedlaethau dilynol.

Credid am flynyddoedd mai alaw felly oedd ‘Wele gwawriodd’, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf – o ganu g?r o Lanystumdwy – gan J. Lloyd Williams yng Nghylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru ym 1922.

Fodd bynnag, fe wyddom bellach mai tôn gymharol fodern yw hon, ac iddi gael ei chyfansoddi yn ystod chwedegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg gan Henry Williams (‘Alaw Llechid’ neu ‘Esin Alaw’), côr-feistr Eglwys Glanogwen, Bethesda. Yn ôl pob sôn, aeth enw’r cyfansoddwr yn angof gan ei fod yn un o “fradwyr” Streic Fawr y Penrhyn. Mae’r dôn wreiddiol, yn llaw’r cyfansoddwr ieuanc, yma yn y Llyfrgell, ac yn enghraifft berffaith o alaw ag iddi hanes diweddar, ond tinc hynafol!

Bydd llawer o ganu ar eiriau’r garol ganlynol hefyd tros y Nadolig, ond tybed pwy a’i hysgrifennodd?

Wele, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed;
Darfu i Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod:
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.

Ymddangosodd y geiriau am y tro cyntaf yn y gyfrol Difyrrwch i’r Pererinion o Fawl i’r Oen (Caerfyrddin, 1763), gwaith Dafydd Jones (‘Dafydd Jones o Gaeo’), porthmon o sir Gaerfyrddin. Cafodd yr awdur dröedigaeth yng nghapel Troed-rhiw-dalar wrth ddychwelyd adref o daith borthmona, ac ymroes weddill ei oes i weithgarwch llenyddol fel cyfieithydd emynau Saesneg Isaac Watts, ac awdur emynau Cymraeg gwreiddiol.

Diau y clywn fwy amdano y flwyddyn nesaf: bydd yn dri-chan-mlwyddiant geni Dafydd Jones yn 2011.

Maredudd ap Huw

Posted - 21-12-2010

Heb ei gategoreiddio

Blwyddyn newydd….Blwyddyn gyffrous!

Wel, mae yna flwyddyn arall wedi gwibio heibio, blwyddyn lwyddiannus a llawn digwyddiadau. Bu’ swyddfa Herbert Morgan yn brysur iawn yn trefnu’r amryw o ddigwyddiadau a manteisio ar y cyfleoedd i gwrdd â rhai o enwogion y byd, megis Matthew Rhys, Rory Cellan Jones a Jan Morris ond i enw ychydig! Mae wedi bod yn flwyddyn i’w chofio…

Mae rhaglen newydd y Drwm gyda’r argraffwyr ar hyn o bryd, os ddymunwch gael copi driwyr post danfonwch eich manylion i post@llgc.org.uk. Rwyf wedi bod yn paratoi’r labeli ar amlenni yn barod i’w stwffio a’i postio cyn gynted a byddwn yn medru ar ddechrau’r flwyddyn, yna, allwch archebu eich tocynnau neu drefnu ymweliad a’r Llyfrgell. Mae gennym amrywiaeth eang o ddigwyddiadau ar y gweill, rhywbeth at ddant pawb, Diwrnod Agored a nosweithiau difyr a diddorol yng nghwmni Huw Edwards, Tudur Owen a Dewi Pws.

Edrychwn ymlaen at 2011, i’r digwyddiadau yr arddangosfeydd ac i groesawi mwy o ymwelwyr o bedwar ban byd yma i Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ymweld â thrysorau’r genedl .

Posted - 17-12-2010

Newyddion a Digwyddiadau

‘Hwyl yr Wŷl’

Cafwyd diwrnod i’r Brenin yma ddydd Mercher, a’r naws Nadoligaidd yn gryf drwy’r lle. Trefnwyd digwyddiad ar y cyd â Cymdeithas Staff y Llyfrgell, sef Gwasanaeth Carolau a Phlygain yng nghwmni Steffan Jones aelod o Eglwys Efengylaidd Aberystwyth ac yn arwain y gân oedd Gareth Jones o Lambed. Roedd y Drwm dan ei sang a’r carolau yn atseinio drwy’r Llyfrgell.
Bu casgliad tuag at Ward y Plant, Bronglais a braf iawn oedd gweld cymaint o bobl yn cyfrannu. Ar ôl y wasanaeth bu cyfle i bawb orffen ei siopa ‘Dolig yn Siop y Llyfrgell a manteisio ar ostyngiad o 10% ar rai nwyddau.

Gan ychwanegu at y naws a hwyl yr w?l, eleni eto, gwahoddwyd plant staff y Llyfrgell yma i gwrdd  â Siôn Corn a chael te parti bychan ym Mhen Dinas. Wrth gwrs, roedd y plant i gyd yn ymddwyn yn dda iawn gan fod yna ddyn pwysig yn y t?! Yng nghanol y jeli a’r brechdanau, y dathlu a’r dawnsio roedd yna lawer o fwrlwm ac anrheg i bawb.

Un digwyddiad arall oedd Parti’r Plant a drefnwyd gan y Gymdeithas Staff, mae ein calendr yn llawn o weithgareddau ac rydym yn falch o gael codi arian i achosion da ar hyd y ffordd…

Posted - 16-12-2010

Heb ei gategoreiddio

Mwy na thomen o sbwriel…

Rhan bwysig o’m rôl yn yr Uned Metadata yw ysgrifennu cyflwyniadau ar gyfer yr eitemau sy’n ymddangos ar y Drych Digidol. Y llynnedd, roeddwn ynghlwm â digido Papyri Oxyrhyncus (2il – 4ydd ganrif), ac fe’m rhyfeddwyd pan ddechreuais ymchwilio i mewn i’w hanes. Fe’u hadnabyddir fel Llsgr. NLW 4738D, ac maent yn 3 enghraifft o ddernynnau hynafol o bapyrws o’r Aifft (papur a wnaed o bith planhigyn y papyrws), a’r rhain yw’r llawysgrifau hynaf a gedwir yma yn y Llyfrgell Genedlaethol. Maent wedi eu hysgrifennu yn yr iaith Groeg, ac er eu bod yn bapurau cyffredin, pob dydd e.e. derbynneb am randaliad o dreth y pen, archeb gyflenwi pobydd, a llythyr personol, mae hanes eu cadw a’u darganfyddiad wedi dal fy nychymyg.

[Llsgr. NLW 4738D: Llun agos o ddernyn 29d recto]

Llsgr. NLW 4738D: Llun agos o ddernyn 29d recto

Yn yr 1890au hwyr, dechreuodd ddau bapyrolegwyr o’r Egypt Exploration Society, Bernard Grenfell ac Arthur Hunt, gloddio tomenni sbwrielOxyrhyncus – tref hynafol yng Ngogledd yr Aifft. Yno, o dan y tywod, darganfuasant werth 1000 o flynyddoedd o bapyri.

Yn rhyfeddol, roedd y darnau yma o bapur a oedd wedi eu taflu i ffwrdd, wedi cael eu diogelu mewn amodau delfrydol oherwydd lleoliad y dref – prin y bydd hi’n bwrw glaw yn y rhan hon o’r Aifft, ac oherwydd bod Oxyrhyncus wedi ei lleoli’n agos i gamlas, nid oedd yn dioddef oddi wrth y llifogydd blynyddol a oedd yn gyffredin ar lannau’r Nîl.

Cyn y darganfyddiad hwn, ni ystyriwyd Oxyrhyncus yn safle hynafol o bwysigrwydd, fodd bynnag, datgelodd yr archif anarferol hon rhywbeth yr oedd safleoedd clasurol Groeg a’r Eidal wedi methu â chadw – papur. Mae’r rhan fwyaf o’r papyri a ddarganfuwyd yn Oxyrhyncus yn gofnod o fywyd bob dydd, e.e. llythyrau preifat, rhestrau siopa a ffurflenni treth, ac maent yn cynnig cipolwg gwerthfawr o weithgareddau cymdeithasol trigolion y dref hynafol. Canfuwyd nifer o bapyri eraill hefyd, rhai ohonynt o natur lenyddol, yn ogystal â sawl copi cynnar o’r Testament Newydd.

Tra’n paratoi’r papyri ar gyfer eu digido, roeddwn yn synnu wrth feddwl bod y papurau hyn wedi goroesi ers bron i 1,900 o flynyddoedd a’u bod, ar un adeg, wedi eu taflu allan gyda’r sbwriel!

Os hoffech chi weld Papyri Oxyrhyncus ewch i Ddrych Digidol y Llyfrgell.

Siân Medi Davies, Llyfrgellydd Cynorthwyol (Metadata), Is-adran Datblygiadau Digidol.

Posted - 15-12-2010

Blog Kyffin

Diwrnod o Ddathlu

Julian gyda rhwymiad cain

Julian gyda rhwymiad cain

Roedd dydd Llun (13/12/10) yn ddiwrnod o ddathlu ac o ddiolch yn y Llyfrgell. Wedi dros ddwy  flynedd o waith caled gan amryw o unigolion a fu’n gysylltiedig â phrosiect Kyffin Williams, cyrhaeddwyd penllanw wrth i’r storfa newydd gael ei hagor yn swyddogol.

Daeth tua hanner cant ynghyd ar gyfer yr achlysur, gan gynnwys aelodau o Fwrdd y Llyfrgell, Bwrdd Kyffin ac ambell aelod o Penodau. Cafwyd sgwrs ddifyr yn Ystafell y Cyngor gan Julian Thomas am ei gyfeillgarwch â Kyffin dros y blynyddoedd. Dangosodd inni amryw o’r rhwymiadau cain a wnaeth i Kyffin, gan ddefnyddio cynlluniau o waith yr artist, ar gyfer rhai o’i gyfrolau megis Across the Straits ac A Wider Sky. Julian yw rheolwr yr Uned Cadwraeth Triniaeth, a’r Nadolig hwn bydd yn ymddeol wedi dros ddeugain mlynedd yn gweithio i’r Llyfrgell. Diolchodd y Llyfrgellydd iddo am ei gyfraniad ‘hir a disglair’, ac am fod yn gymaint o gennad i’r Llyfrgell. Talwyd teyrnged arall iddo gan Paul Joyner (Pennaeth Derbyn Archifau a Chelf) a bwysleisiodd enwogrwydd byd eang Julian fel rhwymwr cain ac arbenigwr cadwraethol.

Julian yn dangos mwy o'i rwymiadau

Julian yn dangos mwy o'i rwymiadau

Ymlwybrodd pawb wedyn i’r storfa newydd lle bu Pamela Small o’r Uned Cadwraeth Ataliol yn sôn am ei rhan hi ac eraill (gan gynnwys y gof lleol) yn y broses o sicrhau ac addasu’r hen storfa lyfrau ar gyfer cadw casgliad Kyffin yn ddiogel dan yr amodau amgylcheddol gorau (gweler Storfa Kyffin).

Iwan Bryn James
Rheolwr Uned Cadwraeth Ataliol

Posted -

Heb ei gategoreiddio

Harri Potter

Ydach chi’n berson trefnus? Ga’i ofyn ydach chi’n gwybod beth sydd yn eich rhewgell? Ydi’r eitemau wedi’u labelu a’u trefnu mewn categoriau? e.e. cigoedd, llysiau, cacennau – neu a yw popeth blith drafflith ar draws ei gilydd lle bynnag ceir lle iddynt? Mae gen i reswm dros holi.

Dychmygwch mynd i lyfrgell â’i chynnwys heb unrhyw fath o drefn. Sut siap fydde arnoch chi’n chwilio am lyfr penodol? Lle fydde chi’n dechre chwilio – ac yn bwysicach fyth, sut fase chi’n gwybod os oedd y llyfr yno’n y lle cyntaf?

Dyna un rheswm pam fod angen catalog ar lyfrgell – i alluogi pobl i ddarganfod beth sydd yno ac ym mhle i gael gafael ynddo. Mae catalog yn rhestru a disgrifio beth sydd yn y casgliad ac yn nodi ‘u lleoliad. Mae’n ganllaw allweddol i ddefnyddwyr. Mae catalogydd yn cofnodi awdur a theitl, manylion cyhoeddi y llyfr ynghyd â disgrifiad ohono a beth yw ei destun. Cliciwch yma i weld enghraifft o gofnod oddi ar gatalog y Llyfrgell.

Mi welwch mai J. K. Rowling yw’r awdur ac mai Harri Potter a maen yr athronydd yw’r teitl. Ceir nodyn yn eich hysbysu mai argraffiad Cymraeg ydyw wedi ei gyfieithu gan Emily Huws. Efallai eich bod eisioes yn gyfarwydd â’i gwaith – medrwch glicio ar ei henw i ddarganfod mwy. (Roedd ‘na 498 cofnod i mi ddewis o’i plith pan wnes i hynny a dim ond 128 i J. K. Rowling!). Mae’r penawdau testunol yn nodi mai llyfr i blant yw hwn, am ddewiniaid a swynion (magic).

Felly y tro nesaf byddwch â’ch pen yn y rhewgell yn chwilio am rhywbeth i swper, meddyliwch gymaint haws fydde’i arnoch pe byddai gennych gatalog o beth sydd yno!

Posted - 14-12-2010

Casgliadau

Nadolig Tredegar

Bwydlen dydd Gwener 14 Rhagfyr 1838

Bwydlen dydd Gwener 14 Rhagfyr 1838

Bu’n draddodiad trwy gydol y blynyddoedd i ddathlu’r Nadolig gyda brwdfrydedd yn Nhŷ Tredegar, sir Fynwy. Mewn llythyr at ei gŵr o Lundain, dyddiedig 7 Ionawr 1688 (y diwrnod wedi’r Ystwyll) mae’r Fonesig Mary Kemeys yn ei geryddu am beidio ag ysgrifennu ati, ond yn atal cerydd pellach (â’i thafod yn ei boch efallai), “not knowing wheather ye sober or ye ffair company at Tredegar have ended there Christmas yett” (LlGC, Papurau Kemeys-Tynte, C 102).

Sefydlodd Syr Charles Morgan (1760-1846) draddodiad o bartïon Nadolig mawreddog yn Nhredegar, a hynny yng ngaeaf 1809-10, a pharhaodd y traddodiad hyd nes ei farw. Mae dogfennau’n ymwneud â’r partïon hyn ymysg papurau stad Tredegar (LlGC, Papurau Tredegar, ADT 5). Rhyw 60 neu 80 o bobl a fynychai’r partïon cynharaf, gan gynnwys llawer o foneddigion y siroedd cyfagos. Roedd sioe wartheg blynyddol Tredegar, a sefydlwyd ym 1819 ac a gynhelid yng nghanol Rhagfyr, hefyd yn denu ymwelwyr i’r plasty. Gellir gweld posteri yn ymwneud â’r sioe, 1821-1846, rhai ohonynt wedi eu hargraffu ar sidan, ym mhapurau Tredegar P 3/24. Erbyn blynyddoedd olaf Charles Morgan, prin y byddai mwy na 30 ar y tro yn aros yn y plasty, ond ym 1838-39, roedd hynny’n gyfystyr â “Family & Guests in Parlour, 30; Children, 12; Sir Charles Morgan’s servants, 39; Strange servants & Band, 38; total, 119, all of whom slept in the House except the stable helpers, and from 70 to 80 dined & supped in the Servants Hall every day” (Tredegar ADT 5/3).

Bwydlen Dydd Nadolig 1838

Bwydlen Dydd Nadolig 1838

Fel arfer, byddai’r grŵp teuluol yn ymgasglu yn ystod wythnos gyntaf Tachwedd, ac yn aros hyd wythnos gyntaf y Chwefror dilynol, gydag ymwelwyr ‘dieithr’ yn ymweld â’r plasty’n achlysurol am amryfal gyfnodau.

Cadwyd y ‘bills of fare’ (bwydlenni) ar gyfer y cyfnod 9 Rhagfyr 1838 hyd 6 Chwefror 1839, a chynhwysant ffefrynnau cartrefol megis pwdin gwaed, pastai llysywod, afu a bacwn, a stwnsh tatw a chabetsh. Ar fwydlen 14 Rhagfyr 1838 roedd dewis o gawl moron neu gawl boch ychen, pwdin golwyth cig eidion, cwningod wedi eu berwi, cimwch, pwdin melyn, a llaeth sur a hufen. Tybed mai dyma a ystyrid yn Nhredegar fel bwyd syml a phlaen cyn dechrau gwir gyfnod yr Ŵyl?

Stephen Benham

Posted - 13-12-2010

Newyddion a Digwyddiadau

Edrych yn ôl cyn edrych ymlaen

Oriel Gregynog, Arddangosfa Byd Bach, teithio yng Nghymru a thu hwnt

Gyda’r nadolig yn nesau mae hwn yn gyfle i ni fel adran arddangosfeydd y Llyfrgell edrych yn ôl ar ein raglen arddangos dros y flwyddyn ddiwethaf ac edrych ymlaen at y arddangosfeydd y dyfodol.

Cafwyd cyfnod prysur iawn yn 2010 yn cynnwys dros ugain o arddangosfeydd yn fewnol ac yn allanol. Cafwyd cyfle i gyfnewid chwe ardal arddangos o fewn y Llyfrgell, arddangosfeydd teithiol i Eisteddfod yr Urdd yng Ngheredigion, Sioe Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn Llanelwedd ac ymestyn allan i Wrecsam.

Mae arddangosfeydd o waith arlunwyr celf wedi cynnwys Alan Percy Walker, Denys Short, Claudia Williams, Joan Baker a The Curwen Studio.

Arddangosfeydd mewnol o Beth Sy’n Newydd? gan adran Derbynion diweddar y Llyfrgell, Gwena! Portreadau o Gymru sef arddangosfa yn cynnwys eitemau o gasgliad y Llyfrgell yn unig yn Oriel Gregynog i arddangosfa ddiweddar yr Hydref sef Byd Bach, teithio yng Nghymru a thu hwnt (Hydref 2010 – Ebrill 2011). Yemen gan Charles a Patricia Aithie (Medi 2010 – Ebrill 2011). Cyfnewid Awduron Cymru o Brenda Chamberlain a Caradog Prichard i Islwyn Ffowc Elis a Gillian Clarke (Rhagfyr 2010 – Tachwedd 2011). Cam wrth Gam: Olrhain eich Achau, arddangosfa Hanes teulu. Ardal Hengwrt lle gwelwn drysorau o’r Llyfrgell cafwyd benthyciad arbennig o’r Amgueddfa Cymru o weithiau Picasso (Mai – Awst).

Mae rhaglen 2011 yn cynnwys arddangosfa ‘Lleoedd’ yn Mis Ionawr sef casgliad amrywiol o weithiau celf wedi eu creu gan artistiaid lleol ag anawsterau dysgu o Wasanaethau Dydd Plas Lluest. Arddangosfa ôl syllol Clive Hicks-Jenkins i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 i’w weld yn Oriel Gregynog yn mis Mai. Arddangosfa ar y cyd gyda John Welson a Jean Claude Charbonel yn mis Ebrill ac yna brif arddangosfa yn Oriel Gregynog ar y thema Hamdden yn mis Hydref.

Felly nid oes gennym amser i ymlacio! Mae’r tîm yn brysur yn paratoi, ymchwilio a threfnu’r arddangosfeydd sydd i ddod yn y Llyfrgell yn 2011.

Newer Posts →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog

Subscribe2