BLOG - Monthly Archives: Gorffennaf 2011

Postiwyd - 29-07-2011

Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Geoff Charles, yr Eisteddfod a Wrecsam a’r Fro.

Gydag Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam a’r Fro ar fin cyrraedd, mae ymweliad y Brifwyl i fro cartref Geoff Charles yn cynnig cyfle i ni daro golwg ar rai o’i luniau o’r Eisteddfod Genedlaethol. Roedd gan Geoff Charles gysylltiadau cryf gydag ardal Wrecsam. Gafodd ei eni ym Mrymbo yn Ionawr 1909 a bu’n byw yn y pentref tan iddo adael cartref i fynychu cwrs coleg yn Llundain ac yna cychwyn ar ei yrfa newyddiadurol yn Warrington, Caerdydd, Aberpennar ac yna yn Guildford, cyn gorfod dychwelyd i’w gynefin wedi iddo gael ei daro’n wael gan TB. Yn 1933 cychwynnodd weithio i’r Wrexham Star, gan chwarae rhan allweddol yn cynhyrchu rhifyn arbennig y papur a gyhoeddwyd adeg y trychineb dychrynllyd ym mhwll glo Gresffordd yn 1934. Wrth weithio ar y Star cychwynnodd hefyd gymryd ffotograffau, ymhlith ei luniau cynharaf delweddau o weithwyr achub yng Ngresffordd adeg y trychineb. Yn 1936 cychwynnodd perthynas broffesiynol gyda chwmni Woodall, Minshall a Thomas, cyhoeddwyr y Wrexham Leader, y Montgomeryshire Express a’r Cymro, a oedd i barhau am weddill ei yrfa. Er iddo adael ardal Wrecsam ar gychwyn yr Ail Rhyfel Byd, yn symud ei deulu ifanc i’r Drenewydd a hwyrach i Fangor, parhau gwnaeth ei gysylltiadau cryf gyda’i chynefin. Ymhlith ei lluniau mwyaf trawiadol ydy’r gyfres cymerodd yn y 1940au hwyr a 1950au cynnar o weithwyr dur Brymbo.

Fel aelod o’r tîm Datblygiadau Digidol rwyf wedi bod yn gweithio ar brosiect digido Casgliad Geoff Charles ers dros ddegawd, ac wedi dod yn gyfarwydd iawn gyda gwaith y ffotograffydd. Wrth ddod i nabod y casgliad yma mae’r cysylltiadau cryf rhwng Geoff Charles a’r Eisteddfod Genedlaethol yn dod i’r amlwg, cysylltiadau a datblygodd, ar y lefel proffesiynol o leiaf, allan o’i waith fel ffotograffydd i’r Cymro. Dros hanner canrif cymerodd filoedd o ffotograffau o’r Brifwyl, yn cymryd ei luniau cyntaf yn Eisteddfod 1939 a’i set olaf yn Llambed yn 1984 gan fynychu bron pob eisteddfod rhwng 1939 a 1975 fel ffotograffydd. Mae ceisio dewis a dethol pedwar llun allan o’r adran yma o’r casgliad yn dasg sydd bron yn amhosib ac rwyf felly wedi ceisio rhoi blas o’i waith trwy ddewis pedwar llun sy’n adlewyrchu nid yn unig byd ffurfiol a natur urddasol a seremonïol yr Eisteddfod, ond hefyd ei allu i ffocysu ar rai o elfennau mwy anffurfiol y Brifwyl.

Mae’r ddelwedd gyntaf yn dangos yr Archdderwydd Crwys, gyda’r Orsedd tu ôl iddo, yn eistedd yng ‘nghadair wag’ Eisteddfod Genedlaethol Dinbych, 1939, pan nad oedd unrhyw un yn deilwng o’i hennill.

Mae’r ail yn dangos ymdaith yr Orsedd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhosllannerchrugog yn 1945, a gafodd ei chynnal yn nyddiau olaf yr Ail Rhyfel Byd, gyda’r datganiad fod Siapan wedi ildio yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos.
Mae’r trydydd yn un sy’n gwrthgyferbynnu elfennau traddodiadol a seremonïol yr Eisteddfod gyda’r byd modern ac yn dangos yr Archdderwyddon Cynan, Brynallt a Gwyndaf yn teithio mewn Ford Zephyr yng ngorymdaith Cyhoeddi Eisteddfod y Drenewydd yn 1964.
Mae’r olaf yn ddelwedd anffurfiol o ferched dawns y blodau yn cysgodi rhag y glaw yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhydaman yn 1970. Mae’n ddelwedd sy’n dangos llygaid craff Geoff Charles am gyfansoddi ffotograff effeithiol ac yn un sy’n adlewyrchu profiad nifer o eisteddfodwyr dros y blynyddoedd (ond dim eleni gobeithio!).
Os ydych am weld mwy mae miloedd o luniau gan Geoff Charles nawr i’w weld ar gatalog y Llyfrgell Genedlaethol. Ewch i’r linc yma i ddarganfod mwy!

Postiwyd - 28-07-2011

Heb ei gategoreiddio

Rhys Evans – Cyfoda!

Mae’r Llyfrgell dros y blynyddoedd yn gyfarwydd iawn a phrynu eitemau sydd o fewn ein polisi casglu  mewn tai ocsiwn ar hyd a lled Prydain, a thu hwnt ambell dro. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf ohonom wedi clywed am y rhai enwocaf ym Mhrydain, sef Sotheby’s a Christies. Ond rydym hefyd yn ymwneud yn gyson â rhai llai cyfarwydd, megis Bonhams, Bloomsbury a Dominic Winter. Weithiau bydd ein cynnig yn llwyddo a thro arall bydd rhywun arall yn gwneud cynnig gwell. Dyna yw natur ocsiynau o bob math.

Beth bynnag, dro ‘nôl daeth gwybodaeth  bod llyfr o ddiddordeb Cymreig ar weth yn un o dai ocsiwn Efrog Newydd. Roedd yn cael ei werthu gan gwmni Kenstenbaum. Mae’n rhaid cyfaddef ei fod yn enw newydd i mi ar y pryd.  Cwmni sy’n arbenigo mewn llyfrau o ddiddordeb Iddewig. A beth yn union oedd y llyfr?

Wel, un o lyfrau Arise Evans (fl. 1607-60) oedd ar werth, sef A light for the Jews (Llundain, 1656). Llyfr cenhadol oedd hwn a llwyddwyd i’w brynu.  Brodor o Langelynin yn Sir Feirionnydd oedd yr awdur.  Fe’i disgrifir fel ‘dewin a phroffwyd’ gan Thomas Richards yn y Bywgraffiadur Cymreig.

Rhys neu Rice oedd ei enw bedydd ond newidiodd ei enw i  ‘Arise’ ar ol  cael breuddwyd neu weledigaethMae’n debyg bod y  rhain yn dod iddo’n gyson. Dyn ychydig bach yn od a dweud y lleiaf. Cyhoeddodd nifer o’i broffwydoliaethau a cheir copiau ohonynt yng nghasgliad y Llyfrgell. Ond roedd y llyfr bach hwn, oherwydd ei brinder, wedi llwyddo i’n hosgoi hyd ‘rwan. Bellach, ar ol taith hir, cyrhaeddodd Aberystwyth yn ddiogel. Dyma enghraifft arall o gyhoeddiad  o’r gorffennol a ddaeth i’r golwg yn ddiweddar.

Postiwyd - 25-07-2011

Heb ei gategoreiddio

Llif Llyfrau (Rhan 2)

Rhyw wythnos yn ôl ar y blog hwn fe es ati i ddechrau egluro sut mae mynd ati i sicrhau fod y miloedd o lyfrau sy’n cyrraedd y Llyfrgell bob wythnos cael eu prosesu yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon (Llif Llyfrau – Rhan 1).

Y cam cyntaf oedd darganfod yn union be sy’n digwydd i’r llyfrau ar hyn o bryd.

Ymlaen â ni felly i’r cam nesaf:

CAM 2 – Dadansoddi’r llif gwaith

Ar ôl creu map manwl o’r llif gwaith presennol y cam nesaf yw dadansoddi’r llif er mwyn adnabod y gweithgareddau sydd ddim yn ychwanegu gwerth i’r defnyddiwr:

Enghraifft 1 = Symud y llyfrau o un rhan o’r adeilad i’r llall rhwng camau prosesu.
Gwelliant Posib = Prosesu’r llyfrau i gyd mewn un cam hyn hytrach nac mewn cyfres o gamau unigol.

Enghraifft 2 = Ar hyn o bryd caiff y llyfrau eu prosesu ar un o’r lloriau uchaf yn yr adeilad
Gwelliant Posib = Sicrhau fod prosesu’n digwydd ar y llawr gwaelod fel bod dim angen i filoedd o lyfrau gael eu llwytho i mewn i lifft bob wythnos (byddai hyn yn arbed amser y staff sy’n gorfod symud y deunydd yn ogystal â’r trydan mae’r lifft yn ei ddefnyddio!)

Y llif gwaith presennol o'i gymharu a llif gwaith newydd posib

Y llif gwaith presennol o'i gymharu a llif gwaith newydd posib

Trwy edrych ar y llif presennol ac adnabod yr elfennau gwahanol hyn gellir mynd ati i lunio llif gwaith newydd a fydd (gobeithio!) yn fwy effeithlon ac effeithiol.

Postiwyd - 21-07-2011

Heb ei gategoreiddio

Rhosyn ymysg y drain

Gyda chymaint o lyfrwerthwyr ail-law bellach yn masnachu ar y we mae’n hawdd anghofio bod rhai yn parhau i gyhoeddi catalogau print. Daw’r post â helfa dda ohonynt i’r Llyfrgell yn ddyddiol. Mae diwyg rhai ohonynt yn syml iawn, yn ddim mwy na phapur A4 wedi ei blygu a chlawr wedi ei staplo at ei gilydd. Bydd eraill yn defnyddio lliw a phapur sglein. Ond ni ddylai eu golwg eich twyllo. Weithiau, rhwng y cloriau, ceir ambell i berl cwbl annisgwyl ar werth.

Wrth bori trwy gatalog anfonwyd gan lyfrwerthwr yng ngogledd Lloegr yr wythnos diwethaf gwelais bod blwyddyn gyfan o bapur newydd wythnosol y Rhôs Review (Mai 1924 – Mai 1925) ar werth am bris rhesymol. Papur a oedd yn gwasanaethu tref Llandrillo-yn-Rhos yng ngogledd Cymru.  Ar ôl gwirio catalog y Llyfrgell a gwneud ambell i ymholiad sylweddolais nad oedd copi yma. Cysylltais ar frys gyda’r gwerthwr rhag ofn i’r copi gael ei werthu. Llwyddais i sicrhau’r copi y tro hwn. Nid dyna’r achos bob tro. Felly dyna gau bwlch bach arall yn ein casgliadau.

A ninnau newydd ddathlu canmlwyddiant gosod carreg sylfaen y Llyfrgell mae’n syndod faint o gyhoeddiadau o’r gorffennol sy’n parhau i ddod i’r golwg. Efallai nad ydynt bob amser yn eitemau sy’n denu sylw’r cyhoedd yn yr un modd a rhai o drysorau’r Llyfrgell. Ond o ran gwybodaeth a hanes lleol mae’r Rhôs Review yr un mor werthfawr.

Felly os ydi pobl Llandrillo-yn-Rhos a thu hwnt yn dymuno gwybod pwy enillodd y darian yng nghystadleuaeth bowlio’r dref yn 1924, neu beth oedd prisau tai a’r ffasiynau dieddaraf yn nauddegau’r ganrif ddiwethaf bydd modd iddynt wneud hynny.

A thra bod deunydd fel hyn yn dod i’r golwg mewn catalogau ddigon distadl yr olwg bydd rhywun o staff y Llyfrgell yn parhau i fodio trwyddynt.

Postiwyd - 19-07-2011

Digido / Newyddion a Digwyddiadau

Dinistr y dathlu!

Bu’r wythnos ddiwetha’n un llawn pwysau a thyndra wrth i mi geisio creu cacen ar ffurf adeilad y Llyfrgell ar gyfer dathlu canmlwyddiant gosod cerrig sylfaen y Llyfrgell.

Pentwr o gacennau

Pentwr o gacennau

Rhaid oedd torri 60 ŵy, ychwanegu 120oz o flawd, 120oz o siwgr a 120oz o fargarîn, eu cymysgu a’u coginio.  Oriau’n ddiweddarach roedd gennyf 5 cacen sbwng 12 modfedd sgwar yn barod i’w modelu i geisio creu siap yr adeilad, gan obeithio gosod sylfeini cadarn i’w gorchuddio a jam ac eisin (6 pot o jam ac 8 kilo o eisin).

Gorchudd o eisin

Gorchudd o eisin

 

Roedd codi bore dydd Mercher, a sylwi nad oedd y sylfeini mor gadarn â’r adeilad gwreiddiol, a bod y gacen wedi ymsuddo rhywfaint dros nos yn dorcalonnus, ac yn creu ychydig o banig – ond wedi tamed bach o gymorth cyntaf rhoddwyd y gacen yn ôl ar seiliau cymharol gadarn unwaith eto.

Ffenestri di-bendraw

Ffenestri di-bendraw

Yna, daeth y gwaith llafurus o addurno ac ychwanegu manylion er mwyn ceisio creu cacen a oedd yn edrych ychydig yn debycach i’r adeilad gwreiddiol.  Bu cryn dipyn o waith astudio’r lluniau manwl yr oeddwn wedi eu tynnu rhai diwrnodau ‘nghynt a cheisio efelychu’r manion.  Roedd astudio manylion pensaerniol yr adeilad yn agoriad llygad – mae’n syndod pa mor gymleth a hyfryd ydyw o edrych arno’n fanwl – ond am boendod ceisio ei ail-greu mewn eisin!

Ar ôl tri diwrnod o waith caled a blinedig i mi a’m ffrind Ann (diolch iddi am yr help a’r gefnogaeth i’m cadw i fynd drwy’r cwbwl), daeth diwrnod y dathlu a’r cyfle i gael fy mywyd a’m cegin yn ôl …

Ond, wedi’r holl waith caled, y gofid, a’r poen meddwl, beth wnaeth y Llyfrgellydd a’m campwaith?

 

 

 

 

Rhoi CYLLELL ynddi, a’i DINISTRIO!

Postiwyd -

Casgliadau

Arch . . . beth?

Pan ofynnwyd i mi gyfrannu at y blog, ystyriais y byddai hyn yn gyfle da i daflu ychydig o oleuni ar waith archifydd.  Arch… beth? y clywaf rhai yn dweud.  Dyna’r union gwestiwn roedd llawer o’m cyfeillion yn gofyn pan gychwynnais ar fy swydd fel Archifydd Cynorthwyol yma’n y Llyfrgell bedair blynedd yn ôl wedi i mi gwblhau’r cwrs ôl-radd mewn Gweinyddu Archifau ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Archifydd sy’n gyfrifol am gaffael, gwerthuso, trefnu, a chatalogio dogfennau a chofnodion eraill sydd â gwerth hanesyddol iddynt.  Ac nid oes lle gwell na’r Llyfrgell Genedlaethol i weithio gydag archifau – mae yma gyfoeth ac amrywiaeth o bapurau!  Wrth sôn am gofnodion hanesyddol, mae’n siŵr mai’r peth cyntaf a ddaw i feddwl rhai yw hen fwndeli o bapurau sydd wedi cael eu gadael am flynyddoedd i gasglu llwch mewn bocsys yn y garej neu mewn dreiriau yng nghornel y swyddfa cyn i rywun sylweddoli bod yna werth hanesyddol iddynt.  Er bod hyn yn wir i ryw raddau, fel aelod o staff sy’n delio gyda chofnodion modern sefydliadau Cymreig, mae’r deunydd rwyf wedi bod yn ei brosesu yn dyddio rhwng ail hanner y ganrif ddiwethaf hyd at y presennol.

Yn wir, mae gofyn i archifyddion erbyn hyn ymdrin â chofnodion modern aml-gyfrwng.  Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gyfrifol am werthuso archif hybrid Safle, sef un o gyn-sefydliadau artistig y wlad, a ddaeth i’r Llyfrgell yn gynharach y llynedd.  Mae’n cynnwys 12 bocs o gofnodion papur, neu analog fel y’i gelwir, a gwerth 171Gb o ffeiliau electronig ar ddisg galed allanol.  Nid dyna’r ddelwedd draddodiadol o archifydd!

D. Rhys Davies

Postiwyd - 15-07-2011

Heb ei gategoreiddio

Llif Llyfrau (Rhan 1)

Camau prosesu deunydd adnau cyfreithiol

Camau prosesu deunydd adnau cyfreithiol

Fel Llyfrgell Adnau Cyfreithiolmae gan y Llyfrgell hawl i wneud cais am gopi rhad ac am ddim o bob llyfr, cylchgrawn a deunydd printiedig arall a gyhoeddir Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. O ganlyniad mae’r  Llyfrgell yn derbyn ac yn prosesu miloedd o lyfrau bob wythnos.  Mae’r nifer uchel o lyfrau yn golygu ei fod yn enghraifft berffaith o sut gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i effeithlonrwydd proses.Sut felly mae mynd ati i sicrhau fod miloedd o lyfrau’n cael eu prosesu yn y ffordd mwyaf effeithiol ac effeithlon?

CAM 1: Darganfod yn union be sy’n digwydd ar hyn o bryd

Mae’n bwysig deall bob cymal yn y broses o’r dechrau i’r diwedd gan y gall newidiadau ar un pwynt yn y gadwyn gael effaith negyddol ar ran arall o’r gadwyn.  Mae prosesu hefyd yn esblygu dros amser mewn ymateb i amgylchiadau amrywiol a gall fod rhai prosesau fod yn wahanol i’r ddogfennaeth sydd ar gael. Mae’n hanfodol felly i gael cymorth y staff sy’n gwneud y gwaith i egluro’n union beth yw’r camau a beth yw’r problemau a’r rhwystredigaethau mae nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd.

Ar ôl mapio’r broses y canlyniad yw map o’r llif gwaith sy’n edrych rhywbeth fel diagram uchod!

Cadwch olwg ar y blog dros y tair wythnos nesaf i weld beth yw’r camau nesaf….

Postiwyd - 13-07-2011

Heb ei gategoreiddio

Cyflafan y beirdd

Bu’r Llyfrgell yn ffodus yr wythnos hon i sicrhau copi o gyfrol brin a hardd iawn o waith y bardd Hwngaraidd Janos Arany (1817-1882). Pam, meddwch chi, fod gan Llyfrgell Genedlaethol Cymru ddiddordeb yn y fath waith? Y rheswm yw bod y gyfrol yn cynnwys y gerdd  A walesi bardok, sef Beirdd Cymru.Cerdd sy’n enwog iawn yn Hwngari ond ddim mor adnabyddus yma yng Nghymru. Llwyddodd Laszlo Irinyi, gŵr sydd â diddordeb mawr yng Nghymru, i brynu copi yn Budapest rai blynyddoedd yn ôl. Roedd yn hynod falch bod y Llyfrgell yn awyddus i dderbyn ei gopi.

Laslo Irinyi yn cyflwyno'r llyfr i Avril Jones, Cyfarwyddwr Adran Gwasanaethau Casgliadau

Trefnwyd cyfarfod yn y Llyfrgell i nodi achlysur trosglwyddo’r gyfrol ar ddydd Mawrth, 12 Gorffennaf 2011. Cafwyd darlleniadau o’r gerdd mewn Hwngareg, Saesneg a Chymraeg yn ystod y cyfarfod. Darllenwyd y fersiwn Gymraeg gan Twm Morys, sef awdur y cyfieithiad diweddar hwn.

Testun y gerdd yw’r coel bod Edward I, brenin Lloegr, wedi lladd pum cant o feirdd Cymru  yn ystod ei ymgyrch milwrol i oresgyn Cymru, oherwydd nad oeddynt yn fodlon canu ei glodydd. Roedd yn well ganddynt ganu am ddewrder y Cymry a thrwy hynny eu hannog i ymladd yn erbyn eu gormeswyr seisnig. A ddigwyddodd hyn neu beidio sy’n fater arall!

Swynwyd y bardd Thomas Gray (1716-1771) gan y traddodiad hwn o Gyflafan y beirdd a dyma yw testun ei gerdd enwog The Bard.  Dilynwyd y beirdd gan yr arlunwyr; dyma ddarlun enwog John Martin o’r un enw.

Parhaodd yr hanesyn hwn i ymledu o wlad i wlad ac yn 1857  ysgrifennodd Janos Arany ei gerdd enwog. Er mai Cymru yw’r lleoliad, mewn gwirionedd alegori ydyw o’r gormes ddioddefai’r Hwngariaid dan Ymerodraeth Awstria. Roedd Arany yn tynnu cymhariaeth rhwng y ffordd yr oedd hawliau’r Cymry yn cael eu sathru a’r sefyllfa yn Hwngari ar ôl gwrthryfel 1848.

Dyna’r cefndir diddorol ac annisgwyl sy’n gyswllt pendant rhwng dwy wlad, sef Cymru a Hwngari. Bydd mwy o wybodaeth am y gyfrol a chyfieithiad Twm Morys yn ymddangos ar wefan y Llyfrgell maes o law.

Manylion y llyfr:  Janos Arany. Balladai, darluniau gan Mihaly Zichy. Cyhoeddwyd yn Budapest yn 1896.

Gwyn Tudur
Llyfrgellydd Derbyn

Postiwyd - 11-07-2011

Heb ei gategoreiddio

Mae gwasanaeth Sgwrs Sydyn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn fyw!

Er mis Mehefin 2010 mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi mabwysiadu system ymholiadau newydd o’r enw QuestionPoint.  Bellach mae holl ymholiadau’r Llyfrgell yn cael eu cofnodi a’u hateb ar y system hon.  Mae wedi hwyluso ein gwaith o fewn y tîm ymholiadau yn fawr iawn ac yn ein galluogi bellach i rannu gwybodaeth ymysg ein gilydd.

Mae’r system hefyd yn cynnig ffwythiannau eraill, sy’n hwyluso ein gwaith o gysylltu gyda defnyddwyr ac yn cynnig ffyrdd eraill i ni rannu ein gwybodaeth.

Aeth un o’r ffwythiannau yn fyw ym mis Mawrth eleni, sef ein Cronfa Wybodaeth.  Mae’n gronfa chwiliadwy sydd yn cynnwys casgliad o’n ymholiadau mwyaf diddorol a mwyaf addysgiadol.  Ceir amrywiaeth o gwestiynau ac atebion yn ymwneud â hanes teulu, gwybodaeth am ein casgliadau, sut i ddefnyddio ein casgliadau neu gwestiynau am hanes lleol a chyffredinol.  Mae hefyd yn gronfa sydd yn datblygu’n gyson wrth i gwestiynau ac atebion newydd gael eu hychwanegu iddi’n rheolaidd.

Ond y gwasanaeth mwyaf diweddar i fynd yn fyw, a hynny ers Dydd Llun 4 Gorffennaf, yw ein gwasanaeth Sgwrs Sydyn.  Mae’r gwasanaeth yn gweithio fel unrhyw wasanaeth Sgwrs Sydyn arall ac felly dylai fod yn gyfarwydd i’r rheiny sydd wedi arfer ‘sgwrsio’n sydyn’ ond mae hefyd yn ddigon syml i’r rheiny sydd yn llai cyfarwydd â ‘sgwrsio’.  Fe’i cynigir rhwng 11-12 ar Ddydd Mawrth a 2-3 ar Ddydd Iau, ar hyn o bryd, ac yn cael ei wasanaethu gan aelodau o’r tîm ymholiadau sy’n barod iawn i geisio cynorthwyo ymholwyr gyda’u cwestiynau.

Trwy gynnig y gwasanaeth newydd yma rydym yn ychwanegu at y ffyrdd sydd yna i ddefnyddwyr cysylltu gyda’r Llyfrgell ac felly’n cymryd cam arall at wneud y Llyfrgell yn fwy cyraeddadwy.  Rwy’n mawr obeithio y gwneith ein hymholwyr manteisio ar y gwasanaeth newydd yma!

Postiwyd - 07-07-2011

Heb ei gategoreiddio

Eisteddfod Llangollen a W. S. Gwynn Williams

Ydi, mae hi’n wythnos Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol Llangollen unwaith eto. Mae cystadleuwyr o dros 130 o wledydd o bedwar ban byd yn teithio i Langollen am wythnos. Eleni mae’r Eisteddfod yn dathlu 65 mlynedd – cafwyd yr Eisteddfod gyntaf yn 1947 diolch i frwdfrydedd a dyfalbarhad 3 dyn – Harold Tudor, George Northing a W. S. Gwynn Williams.

W. S. Gwynn Williams, Medi 1961.

W. S. Gwynn Williams, Medi 1961.

Yn ôl yn 1943, cafodd Harold Tudor y syniad o greu gŵyl rhyngwladol gerddorol yng Nghymru er mwyn adfer perthnasau a hybu heddwch wedi’r Ail Ryfel Byd. Erbyn diwedd 1945, roedd Tudor wedi crisialu ei syniad o gynnal Eisteddfod Rhyngwladol. Cafodd gefnogaeth brwd gan W. S. Gwynn Williams, cyhoeddwr a chyfansoddwr Cymraeg a George Northing, athro yn Ysgol Dinas Brân a Chadeirydd y Cyngor lleol.
Penodwyd W. S. Gwynn Williams yn Gyfarwyddwr Cerdd i’r ŵyl  yn 1947 a mynnodd gynnal yr Eisteddfod yn flynyddol yn Llangollen, sef ei dref enedigol.

Tren yn cludo cystadleuwyr i Eisteddfod Llangollen 1947.

Tren yn cludo cystadleuwyr i Eisteddfod Llangollen 1947.

Crëwyd amryw o bwyllgorau (yn ôl yr hen arfer Cymreig!) a chafwyd blwyddyn o baratoi a threfnu er mwyn gwireddu’r freuddwyd. Ar drothwy’r ŵyl, ym Mehefin 1947, cyhoeddwyd streic rheilffordd yn Ffrainc, a bu pryder mawr a fyddai cystadleuwyr yn gallu cyrraedd Llangollen mewn pryd. Doedd dim angen poeni – cyrhaeddodd 40 o gorau o 14 gwlad gwahanol a chafwyd llwyddiant ysgubol. Gweler llun gan Geoff Charles, ffotograffydd gyda phapur Y Cymro ar y pryd, o’r tren yn orsaf Llangollen gyda thyrfaoedd yn cyrraedd i’r Eisteddfod. Tyfodd yr ŵyl dros y blynyddoedd i gynnwys cystadlaethau i’r ifanc, dawnsio gwerin a chyngherddau.
Llun arall o Gasgliad Ffotograffau Geoff Charles ceir isod, yn dangos aelodau o Grupo Musical Femininoo Oporto, Portiwgal, ar gwch canal.

Grupo Musical Feminino ar gwch canal, Llangollen 1947.

Grupo Musical Feminino ar gwch canal, Llangollen 1947.

Roedd Gwynn Williams yn gyfrifol am ddewis y darnau prawf a’u dosbarthu i’r cystadleuwyr, ynghyd â goruchwylio rhaglen yr wythnos. Parhaodd yn ei swydd fel Cyfarwyddwr Cerdd am 30 mlynedd hyd ei ymddeoliad yn 1977. Gweithiodd yn frwd gyda threfnwyr eraill yr ŵyl i sicrhau llwyddiant cyson a denu gwledydd newydd i’r ŵyl. Rhwng 1947 a 1953 cystadlodd nifer o wledydd am y tro cyntaf: Yr Arianin, Tseina, Yr Almaen a’r Unol Dalaethiau yn 1949, Brasil, Sri Lanka a Thwrci yn 1950, ac India yn 1951.

Mae’r Eisteddfod yn parhau i hybu’r neges o heddwch hyd heddiw. Dywedodd  Llywydd yr Eisteddfod, Terry Waite: “Y neges heddwch yw neges bennaf yr Eisteddfod, ac mae’r rhai sy’n cyfrannu yn datblygu cyfeillgarwch ac ennill dealltwriaeth newydd o’r rhai a fu eisoes yn cael eu gweld fel bygythiad.”

Ceir hanes pellach am W. S. Gwynn Williams ac Eisteddfod Llangollen yn Oriel Enwogion ar wefan prosiect digidol MYGLYW ac ym mhapurau W. S. Gwynn Williams yn LlGC.

Cofnodion mwy newydd →

Categorïau

Cofnodau wedi Archifo

Cefndir y blog

Blog i gyflwyno gwaith a chasgliadau Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Yn sgil natur bersonol blogiau, polisi'r Llyfrgell yw cyhoeddi postiadau yn yr iaith wreiddiol yn unig. Cyhoeddir yr un faint o bostiadau yn y ddwy iaith, ond nid yr un blogiau ydynt. Am gyfieithiad bras gellir darllen y blog drwy ddefnyddio system gyfieithu megis Google Translate.

Cefndir y blog