Roedd yn fraint ac yn anrhydedd croesawu cynrychiolwyr o Ganolfan Ddiwylliannol Chongqing a Llyfrgell Chongqing i’r Llyfrgell ar 5ed Awst.
Cefndir
Am y tro cyntaf erioed mae Canolfan Ddiwylliannol Chongqing wedi trefnu wythnos ddiwylliannol yng Nghymru o’r 4ydd tan 8fed Awst. Ceir cyfres o ddigwyddiadau’n deillio o’r cysylltiadau sydd wedi datblygu rhwng Cymru a’r Rhanbarth Dinesig hwn yn Tsieina ers dechrau’r ganrif. Yn ogystal â’r digwyddiadau diwylliannol roedd tri chytundeb cydweithredu yn cael eu llofnodi rhwng:
- Llyfrgell Chongqing a Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- Canolfan Mileniwm Cymru a Gr?p Celfyddydau Perfformio Chongqing
- Canolfan Ddiwylliannol Chongqing ac Adran Ddiwylliant Llywodraeth Cymru.
Yn 2006, llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth i feithrin cysylltiadau rhwng Cymru a Llywodraeth Rhanbarth Dinesig Chongqing. Mae’r cytundeb yn ymrwymiad ar ran y ddwy Lywodraeth i weithio gyda’u gilydd ym meysydd diwylliant, datblygu economaidd, addysg a hyfforddiant, yr amgylchedd, llywodraethu ac amaeth.
Y cytundeb cydweithredu
Yn ystod yr ymweliad llofnodwyd cytundeb cydweithredu rhwng y Llyfrgell Genedlaethol a Llyfrgell Chongqing.
Trafodwyd y camau nesaf o ran gweithredu’r cytundeb a chytunwyd fel a ganlyn:
- er mwyn cyfnewid llenyddiaeth leol a chenedlaethol y ddwy wlad dylid sefydlu Cornel Chongqing yn y Llyfrgell Genedlaethol a Chornel Cymreig yn Llyfrgell Chongqing
- dylid ystyried cyfleoedd i gyfnewid staff

Andrew Green a Zhang Bin Mei, Dirprwy Gyfarwyddwr Llyfrgell Chongqing yn llofnodi'r cytundeb cydweithredu.
- ystyried cyfleoedd i drefnu gweithgareddau diwylliannol ar y cyd ac i arddangos deunyddiau o’r casgliadau
- cynnig mynediad ar y we i gasgliadau digidol y llyfrgelloedd i ddarllenwyr y ddau sefydliad
- Llyfrgell Genedlaethol Cymru i ystyried digido casgliad David Hawkes. Casgliad pwysig o tua 4,500 o gyfrolau a roddwyd i’r Llyfrgell gan y Sinolegydd amlwg David Hawkes, oedd yn gyn-Athro Tsieinëeg yn Rhydychen. Mae’n cynnwys gweithiau mewn Tsieinëeg, Siapanëeg a Saesneg yn ymwneud ag iaith, llenyddiaeth, hanes, athroniaeth, crefydd a drama Tsieinïaidd.
Mae gan y Llyfrgell gatalog cardiau o’r holl gasgliad sydd wedi ei sganio a gellir edrych arno ar wefan y Llyfrgell.
gan Avril Jones
