Bob blwyddyn mae’r Llyfrgell yn ymestyn allan i wahanol ardaloedd yng Nghymru. Wrecsam sydd wedi ei benodi eleni felly fel rhan o dîm arddangosfeydd y Llyfrgell, ein swydd ni yw trefnu a chynnal arddangosfa i gyd-fynd â’r digwyddiadau a’r gweithgareddau sydd yn cael eu cynnal yn ardal Wrecsam yn ystod tymor yr Hydref 2010.
Y cam gyntaf oedd gwneud gwaith ymchwil ar yr ardal. Roedd nifer fawr o luniau, delweddau a mapiau ar gael yng nghasgliad enfawr y Llyfrgell. Roedd nifer fawr o ffotograffau yn cynnwys casgliad ffotograffwyr Francis Frith, John Thomas a Geoff Charles. Wrth bori drwy’r delweddau daethpwyd o hyd, nid yn unig i luniau strydoedd Wrecsam ond delweddau oedd yn cynrychioli ystod eang o themâu yn cynnwys diwydiant, diwylliant, chwaraeon ac eisteddfodau yn yr ardal.
Roedd nifer fawr o ddelweddau i ddewis ohonynt ond yn y diwedd penderfynwyd ar tua 25 yn cynnwys delweddau o ddiwydiant clai Cefn Mawr, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Wrecsam yn 1950 a gêm bêl-droed ryngwladol Cymru yn erbyn Iwerddon.

Y cam nesaf oedd trefnu mowntio, fframio ac ysgrifennu cyflwyniad a chapsiynau i bob delwedd. Mae’r prosesau yma i gyd yn cael eu gweithredu yn fewnol yn adrannau arbenigol y Llyfrgell.
Y broses nesaf oedd pacio’r arddangosfa a’i gosod yn Llyfrgell Wrecsam cyn yr agoriad swyddogol ar ddydd Iau 11 o Dachwedd.


Cafwyd agoriad llwyddianus iawn, gyda nifer o fobl wedi mynychu. Gellir gweld mwy o luniau’r noson agoriadol ar ein tudalen facebook
Mae’r arddangosfa i’w gweld yn Llyfrgell Wrecsam o 11 o Dachwedd i 10 o Ragfyr 2010, felly ewch yn llu!
