Cymru yn Ewrop – cyfrannu at Europeana Libraries

Cafodd casgliad ffotograffau Geoff Charles dipyn o sylw yn yr Eisteddfod eleni – yn Y Lle Celf, ar hyd a lled y maes a thrwy gyfrwng gwaith Luned Rhys Parri. Daeth yr ŵyl i ben ddydd Sadwrn wrth gwrs, ond mae gwaith y ffotograffydd yn dal i gael sylw o ddydd i ddydd yn y Llyfrgell Genedlaethol wrth i ni baratoi’r casgliad ar gyfer ei gyflwyno i broject Europeana Libraries.

Nod y project yw ychwanegu 5 miliwn o wrthrychau digidol i Europeana o lyfrgelloedd ymchwil a llyfrgelloedd cenedlaethol ar draws Ewrop gan gynnwys Llyfrgell Bodley, Rhydychen, Coleg y Drindod, Dulyn a Phrifysgol Lund yn Sweden. Bydd y project hefyd yn ychwanegu traethodau ymchwil, erthyglau o gylchgronau mynediad agored a chasgliadau helaeth o Google Books at y 15 miliwn gwrthrych a grynhowyd ynghyd eisoes yn Europeana.

Bydd y gwrthrychau hyn yn rhychwantu canrifoedd o hanes Ewrop ac yn eu plith bydd detholiad o gasgliadau mwyaf nodedig Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ein bwriad yw cyfrannu casgliad ffotograffau John Thomas, casgliad ffotograffau Geoff Charles, printiau Tirlun Cymru a nifer o gylchgronau o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’n broject uchelgeisiol a chyffrous ac mae’n gyfle i ni osod rhai o’n casgliadau ar y we, ochr yn ochr â rhai o drysorau mawr llyfrgelloedd Ewrop.

Byddwn ni’n rhan o’r project tan fis Rhagfyr 2012 felly bydd digon o gyfle, gobeithio, i flogio amdano yn ystod y misoedd sydd i ddod.

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Digido. Nodwch y ddolen barhaol.

Sylwadau wedi cau



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.