Art Nouveau, myfyrwyr drwg a’r KGB

Rwyf newydd ddychwelyd adre o Riga, prifddinas Latfia, lle bûm yn darlithio gerbron cynhadledd flynyddol Cyngor Archifol Sgrin a Sain y Gwledydd Baltig. Cafodd mynychwyr y gynhadledd gyfle unigryw i werthfawrogi rhai o olygfeydd mwyaf cofiadwy’r ddinas.

Roedd y gwesty lle roeddwn yn aros yng nghanol ardal Art Nouveau y ddinas, ac roedd darnau hyfryd o bensaernïaeth ar bob tu wrth i mi fynd i rodianna.

Fe’n croesawyd i dderbyniad gyda’r nos yn y brifysgol, lle roedd cyfle i ymweld â’r arsyllfa, a chraffu ar ddarlun clir o’r blaned Iau trwy’r ysbienddrych. O’r nenfwd, cawsom weld goleuadau Riga, a chafwyd cyfle hefyd i ymweld â charchar y myfyrwyr. Yn hwnnw, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, y byddai myfyrwyr yn cael eu cloi am dridiau am yfed, am bum niwrnod am ysmygu, a phythefnos am ddadlau gyda’u darlithwyr. Gorchuddiwyd muriau’r carchar gan luniau a negeseuon o waith y myfyrwyr. Edrychwch yn ofalus ar y neges ar y dde isod, ac fe welwch i un myfyriwr druan dreulio’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd dan glo am feiddio bwrw amheuaeth ar farn un o’r academyddion.

Pan nad oeddwn yn syllu ar olygfeydd o’r stryd, treuliwn lawer o’m hamser yn edrych i lawr ar Riga o fannau uchel megis Lolfa’r Seren ar unfed llawr ar ddeg y gwesty.  O’r fan honno y gwelais yr adeilad Sofietaidd iawn yr olwg isod (yn y canol, rhwng y tŵr teledu a’r Eglwys Uniongred hardd), adeilad a elwir yn lleol yn ‘Gacen Pen-blwydd Stalin’.

Ar fy niwrnod olaf, roeddwn yn ffodus o gael ymweld â’r adeilad hwn, sef Academi Wyddorau Latfia, a hynny i gyfarfod archifydd y Sefydliad Llenyddiaeth, Llên Gwerin a Chelfyddyd. Ceir golygfa dda o adeilad newydd Llyfrgell Genedlaethol Latfia o’r ail lawr ar bymtheg, adeilad sy’n cael ei godi ar hyn o bryd (fe’i gwelir y tu hwnt i’r bont yn nhu blaen y llun).

Ni chaniateid mynediad i lawr uchaf y ‘Gacen Pen-blwydd’ yn ystod y cyfnod Sofietaidd, a’r diwrnod wedi i Latfia gael annibyniaeth yn 1991, canfu gweithwyr gadeiriau, byrddau, gwelyau a chyfarpar recordio yn y coridorau yma. Heb yn wybod i neb, bu’r KGB yn defnyddio’r rhan hwn o’r adeilad fel gorsaf glustfeinio.

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Archifau a Llawysgrifau. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.