Fel rhan o’m swydd rwy’n gyfrifol am ymchwilio i hawlfraint y gweithiau sydd o fewn casgliad personol Kyffin Williams – y gweithiau gan artistiaid eraill a gasglodd Kyffin yn ystod ei fywyd. Pwrpas hawlfraint yw diogelu perchnogaeth gyfreithiol gweithiau creadigol fel y rhain, a chan ei fod yn parhau yn eiddo i’r artistiaid gwreiddiol ni allwn arddangos y gweithiau yn ein catalog heb eu caniatâd. Er mwyn defnyddio gwaith gan artist sydd wedi marw o fewn y 70 mlynedd diwethaf, mae’n rhaid cysylltu â’r teulu neu weinyddwr yr ystâd.
Mae sawl ffordd o ddarganfod y wybodaeth yma, ond mae hefyd yn gallu bod yn gymhleth. Rhaid i mi felly wisgo fy het dditectif! Yn gyntaf, rwy’n pori drwy gronfa ddata hawl y Llyfrgell, sy’n cynnwys nifer fawr o gysylltiadau, ac yn llwyddo i ddod o hyd i sawl un sy’n berthnasol i mi.
Yn ail, bwrw golwg ar wefan WATCH (Writers Artists and Their Copyright Holders) a DACS (Design and Artists Copyright Society). Mae’r gwefannau yma yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â deiliad yr hawlfraint, neu rywun a fyddai’n gallu ein rhoi ar ben ffordd, er enghraifft y National Portrait Gallery.
Yn drydydd, pori’r rhyngrwyd a chwilio drwy lyfrau. Yn aml mae modd cysylltu ag artistiaid yn uniongyrchol drwy eu gwefannau – dyma’r ffordd hawsaf!
Pan fyddaf wedi dod o hyd i’r deiliad, rwy’n ysgrifennu atynt yn gofyn am ganiatâd i ddefnyddio’r gweithiau, a gofyn am unrhyw wybodaeth ychwanegol, er enghraifft teitl neu ddyddiad cywir i lun lle nad oedd hynny’n hysbys cynt. Wedyn rwy’n aros am ateb! Os na fyddaf wedi gallu darganfod y deiliad bydd yn rhaid i’r tîm prosiect asesu beth fyddai’r risg o’u harddangos.
Mae’r broses wedi bod yn eithaf llwyddiannus, ac rydym wedi cael caniatâd i ddefnyddio 131 o ddelweddau hyd yn hyn. Dyma gipolwg ar ddau ohonynt.
Lon Vaughan
