Un o weithgareddau arbenigol yr Uned Ataliolyw mowntio cadwraethol er mwyn arddangos a gwarchod gweithiau celf. Eleni mae Ruth Evans yn cael y fraint o fowntio lluniau allan o gymynrodd Kyffin Williams. Dyma fwy neu lai yw rhan olaf y broses o dderbyn yr eitemau hyn i’r Llyfrgell gan iddynt eisoes gael eu glanhau, eu catalogio a’u digido.
Ar gyfer y gwaith defnyddia Ruth ein peiriant Speed-Mat i dorri’r byrddau mowntio diasid o liw hufen. Mae’n defnyddio papur o’r ansawdd gorau ar gyfer cysylltu’r lluniau i’r
mowntiau ynghyd â phast arbennig ar gyfer gludio. Gall deunyddiau ansafonol gynnwys amhureddau sy’n medru melynu a breuo papur neu ddarn o gelf. Os bydd angen, gellir datgysylltu’r lluniau o’r mowntiau heb adael ôl. Mae’r gallu hwn i ddadwneud gwaith cadwraethol yn bwysig gan na ddylwn ymyrryd yn ormodol â’r gwrthrych gwreiddiol. Byddwn yn amddiffyn dros 1,000 o luniau Kyffin (a wnaed ar bapur) yn y dull hwn.

Wedi cwblhau’r mowntiau, fe’u cedwir bob yn ddwsin mewn blychau diasid arbennig a gynhyrchir ar un o’n peiriannau gwneud bocsys yn yr Uned Ataliol. Mae blwch o’r fath yn cynnig amddiffyniad rhag difrod corfforol, effaith andwyol goleuni, llygredd o’r awyr; ac mae’n creu hinsawdd micro mwy sefydlog o ran tymheredd a lleithder a fydd yn gymorth i estyn oes y casgliad pwysig hwn yn sylweddol.
Iwan Bryn James
Rheolwr Uned Cadwraeth Ataliol
