Mae’r Llyfrgell dros y blynyddoedd yn gyfarwydd iawn a phrynu eitemau sydd o fewn ein polisi casglu mewn tai ocsiwn ar hyd a lled Prydain, a thu hwnt ambell dro. Mae’n debyg bod y rhan fwyaf ohonom wedi clywed am y rhai enwocaf ym Mhrydain, sef Sotheby’s a Christies. Ond rydym hefyd yn ymwneud yn gyson â rhai llai cyfarwydd, megis Bonhams, Bloomsbury a Dominic Winter. Weithiau bydd ein cynnig yn llwyddo a thro arall bydd rhywun arall yn gwneud cynnig gwell. Dyna yw natur ocsiynau o bob math.
Beth bynnag, dro ‘nôl daeth gwybodaeth bod llyfr o ddiddordeb Cymreig ar weth yn un o dai ocsiwn Efrog Newydd. Roedd yn cael ei werthu gan gwmni Kenstenbaum. Mae’n rhaid cyfaddef ei fod yn enw newydd i mi ar y pryd. Cwmni sy’n arbenigo mewn llyfrau o ddiddordeb Iddewig. A beth yn union oedd y llyfr?
Wel, un o lyfrau Arise Evans (fl. 1607-60) oedd ar werth, sef A light for the Jews (Llundain, 1656). Llyfr cenhadol oedd hwn a llwyddwyd i’w brynu. Brodor o Langelynin yn Sir Feirionnydd oedd yr awdur. Fe’i disgrifir fel ‘dewin a phroffwyd’ gan Thomas Richards yn y Bywgraffiadur Cymreig.
Rhys neu Rice oedd ei enw bedydd ond newidiodd ei enw i ‘Arise’ ar ol cael breuddwyd neu weledigaeth. Mae’n debyg bod y rhain yn dod iddo’n gyson. Dyn ychydig bach yn od a dweud y lleiaf. Cyhoeddodd nifer o’i broffwydoliaethau a cheir copiau ohonynt yng nghasgliad y Llyfrgell. Ond roedd y llyfr bach hwn, oherwydd ei brinder, wedi llwyddo i’n hosgoi hyd ‘rwan. Bellach, ar ol taith hir, cyrhaeddodd Aberystwyth yn ddiogel. Dyma enghraifft arall o gyhoeddiad o’r gorffennol a ddaeth i’r golwg yn ddiweddar.
