Llyfr Aneirin

Yn eu cyfarfod ar 9 Medi, penderfynodd Cyngor Caerdydd drosglwyddo Llyfr Aneirin, un o’r llawysgrifau Cymraeg hynaf a phwysicaf, ar fenthyciad parhaol i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Ysgrifennwyd y llawysgrif yn ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg, a cheir ynddi awdlau’n clodfori milwyr llwyth y Gododdin a laddwyd mewn cyrch aflwyddiannus ar Gatraeth, swydd Efrog, tua’r flwyddyn 600. Credir mai gwaith y bardd Aneirin ydynt.

Wedi hir grwydro, bydd y gyfrol yn dychwelyd at hen gyfeillion: bu Llyfr Aneirin yn cadw cwmni i drysorau fel Llyfr Taliesin a Llyfr Du Caerfyrddin ar silffoedd Hengwrt, Meirionnydd hyd at ail hanner y 18fed ganrif. Ynghyd â Llawysgrif Hendregadredd, diflannodd o Hengwrt cyn diwedd y ganrif honno, a bu’n crwydro o law i law cyn cartrefu yn Llyfrgell Caerdydd ym 1896.

Digwyddodd dau beth pwysig yn hanes Llyfr Aneirin yn ystod y chwarter canrif ddiwethaf. Yn gyntaf, cafodd ei drwsio a’i ail-rwymo gan Julian Thomas o’n Huned Triniaeth Cadwraeth ym 1986. Manteisiwyd ar y cyfle bryd hynny i gynhyrchu ffacsimili o’r cynnwys (bargen o’n Siop am £20!), gyda rhagymadrodd gwych o waith Daniel Huws.

Yn ail, ym 1999, sylwodd yr Almaenwr Ingo Mittendorf fod llawysgrifen un o’r mynaich a ysgrifennodd Lyfr Aneirin i’w gweld hefyd mewn dwy lawysgrif yng nghasgliadau’r Llyfrgell Genedlaethol, sef llawysgrifau Peniarth 14 a 17. Ar sail hyn, gellir tybio mai yng ngogledd Cymru y lluniwyd Llyfr Aneirin, o bosibl yn abaty Sistersaidd Aberconwy.

Hyd nes y daw Llyfr Aneirin i Aberystwyth, bydd yn rhaid bodloni ar weld gwaith llaw’r mynach hwnnw yn llawysgrif Peniarth 17, fydd i’w gweld yn arddangosfa ‘Byd Bach – Teithio yng Nghymru a Thu Hwnt’, yn ystafell arddangos Hengwrt, am y 6 mis nesaf.

Maredudd ap Huw

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Archifau a Llawysgrifau. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.