Un o fy mhrif ddyletswyddau fel Swyddog Codi Arian yw ceisio sicrhau cyfraniadau rheolaidd o unigolion tuag at waith y Llyfrgell Genedlaethol. Soniais eisoes am y cynllun noddwyr Penodau, ond mae’r gwaith yn cynnwys denu cyfraniadau eraill hefyd. Ei chefnogwyr heb amheuaeth yw asgwrn cefn y Llyfrgell a’r nod yw sicrhau fod amrywiaeth o ffyrdd iddynt gyfrannu, a chyfleoedd eang i wneud hynny. Gwerthfawrogir pob rhodd, boed fawr neu fychan ac anogir pobl i gyfrannu fel y gallant a hynny trwy roddion ar-lein, a thrwy ddebyd uniongyrchol. Ar hyn o bryd rydym yn brysur yn llunio taflen rhoddi’n rheolaidd newydd a fydd yn barod ar gyfer ei ddosbarthu yn ystod yr hydref. Cofiwch gadw llygad allan amdano.
Efallai i chi sylwi wrth fynd o amgylch adeilad y Llyfrgell ar y blychau rhoi newydd a wnaed gan Richard Evans, ein saer coed, trwy ail ddefnyddio pren nad oedd bellach o ddefnydd i ni. Rwy’n siŵr y cytunwch fod y blychau newydd yn gweddu’n dda gyda chymeriad arbennig yr adeilad. Sialens arall yw sicrhau ein bod fel Llyfrgell yn achub ar y cyfle i elwa hyd yn oed yn fwy o unrhyw gyfraniad unigol drwy hawlio treth yn ôl arno trwy’r cynllun rhodd cymorth. Dyma’r rheswm dros lunio’r amlenni rhodd cymorth newydd a welir yn y blychau.
Wrth reswm mai sicrhau symiau sylweddol at brosiectau gwahanol yn allweddol, ond mae cyfraniadau rheolaidd fel hyn yn sicrhau incwm cyson a mawr yw ein diolch i bawb sy’n gwneud cyfraniad.
