
Ymysg yr archifau a gatalogiwyd yn ddiweddar yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru mae llawysgrifau a phapurau fu’n eiddo i’r nofelydd rhamantaidd poblogaidd, Berta Ruck (1878-1978), papurau sy’n rhoi cipolwg ar fywyd hir a diddorol. Er iddi gael ei geni yn India roedd ei theulu yn hanu o Esgair a Phantlludw, ger Pennal, Meirionnydd.
Hyfforddwyd hi fel arlunydd ond roedd hefyd yn ysgrifennu storïau a straeon cyfres i gylchgronau. Cyhoeddwyd un o’r rhain, His Official Fiancée, fel nofel ym 1914 a daeth yn nofelydd eithriadol o boblogaidd dros y degawdau canlynol. Ysgrifennodd tua pedwar-ugain nofel i gyd.
Mae Archif Berta Ruck yn LlGC yn cynnwys amryw lawysgrifau a phapurau eraill. Ei llyfrau nodiadau, 1906-1973, yw’r mwyafrif. Cynhwysa’r rhain lythyrau oddi wrth deulu a ffrindiau, gan gynnwys amryw awduron, actorion a pheilotiaid enwog. Maent hefyd yn cynnwys ei dyddiaduron. Ceir ynddynt ddisgrifiadau bywiog o’i bywyd preifat a chymdeithasol (ac o’i ffrindiau enwog). Yn ystod y 1920au a’r 1930au rhannodd ei hamser rhwng ei chartref a’i theithiau yn Ewrop, gan wario llawer o amser yn Fienna. Roedd yn hoff iawn o hedfan, diddordeb a drosglwyddwyd i un o’i meibion a ddaeth yn beilot RAF.
Daeth y ffordd yma o fyw i ben gyda chychwyn yr Ail Ryfel Byd. Gadawodd Lundain gyda’i gŵr (yr awdur storïau ysbryd Oliver Onions) a setlo yn Aberdyfi lle bu’n byw am weddill ei hoes. Mae’r dyddiaduron yn parhau hyd at 1973 pan oedd hi’n 94 mlwydd oed.
Rhys M. Jones
