Bu’r wythnos ddiwetha’n un llawn pwysau a thyndra wrth i mi geisio creu cacen ar ffurf adeilad y Llyfrgell ar gyfer dathlu canmlwyddiant gosod cerrig sylfaen y Llyfrgell.

Pentwr o gacennau
Rhaid oedd torri 60 ŵy, ychwanegu 120oz o flawd, 120oz o siwgr a 120oz o fargarîn, eu cymysgu a’u coginio. Oriau’n ddiweddarach roedd gennyf 5 cacen sbwng 12 modfedd sgwar yn barod i’w modelu i geisio creu siap yr adeilad, gan obeithio gosod sylfeini cadarn i’w gorchuddio a jam ac eisin (6 pot o jam ac 8 kilo o eisin).

Gorchudd o eisin
Roedd codi bore dydd Mercher, a sylwi nad oedd y sylfeini mor gadarn â’r adeilad gwreiddiol, a bod y gacen wedi ymsuddo rhywfaint dros nos yn dorcalonnus, ac yn creu ychydig o banig – ond wedi tamed bach o gymorth cyntaf rhoddwyd y gacen yn ôl ar seiliau cymharol gadarn unwaith eto.

Ffenestri di-bendraw
Yna, daeth y gwaith llafurus o addurno ac ychwanegu manylion er mwyn ceisio creu cacen a oedd yn edrych ychydig yn debycach i’r adeilad gwreiddiol. Bu cryn dipyn o waith astudio’r lluniau manwl yr oeddwn wedi eu tynnu rhai diwrnodau ‘nghynt a cheisio efelychu’r manion. Roedd astudio manylion pensaerniol yr adeilad yn agoriad llygad – mae’n syndod pa mor gymleth a hyfryd ydyw o edrych arno’n fanwl – ond am boendod ceisio ei ail-greu mewn eisin!
Ar ôl tri diwrnod o waith caled a blinedig i mi a’m ffrind Ann (diolch iddi am yr help a’r gefnogaeth i’m cadw i fynd drwy’r cwbwl), daeth diwrnod y dathlu a’r cyfle i gael fy mywyd a’m cegin yn ôl …
Ond, wedi’r holl waith caled, y gofid, a’r poen meddwl, beth wnaeth y Llyfrgellydd a’m campwaith?

Rhoi CYLLELL ynddi, a’i DINISTRIO!
