Pan ofynnwyd i mi gyfrannu at y blog, ystyriais y byddai hyn yn gyfle da i daflu ychydig o oleuni ar waith archifydd. Arch… beth? y clywaf rhai yn dweud. Dyna’r union gwestiwn roedd llawer o’m cyfeillion yn gofyn pan gychwynnais ar fy swydd fel Archifydd Cynorthwyol yma’n y Llyfrgell bedair blynedd yn ôl wedi i mi gwblhau’r cwrs ôl-radd mewn Gweinyddu Archifau ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.
Archifydd sy’n gyfrifol am gaffael, gwerthuso, trefnu, a chatalogio dogfennau a chofnodion eraill sydd â gwerth hanesyddol iddynt. Ac nid oes lle gwell na’r Llyfrgell Genedlaethol i weithio gydag archifau – mae yma gyfoeth ac amrywiaeth o bapurau! Wrth sôn am gofnodion hanesyddol, mae’n siŵr mai’r peth cyntaf a ddaw i feddwl rhai yw hen fwndeli o bapurau sydd wedi cael eu gadael am flynyddoedd i gasglu llwch mewn bocsys yn y garej neu mewn dreiriau yng nghornel y swyddfa cyn i rywun sylweddoli bod yna werth hanesyddol iddynt. Er bod hyn yn wir i ryw raddau, fel aelod o staff sy’n delio gyda chofnodion modern sefydliadau Cymreig, mae’r deunydd rwyf wedi bod yn ei brosesu yn dyddio rhwng ail hanner y ganrif ddiwethaf hyd at y presennol.
Yn wir, mae gofyn i archifyddion erbyn hyn ymdrin â chofnodion modern aml-gyfrwng. Yn ddiweddar, rwyf wedi bod yn gyfrifol am werthuso archif hybrid Safle, sef un o gyn-sefydliadau artistig y wlad, a ddaeth i’r Llyfrgell yn gynharach y llynedd. Mae’n cynnwys 12 bocs o gofnodion papur, neu analog fel y’i gelwir, a gwerth 171Gb o ffeiliau electronig ar ddisg galed allanol. Nid dyna’r ddelwedd draddodiadol o archifydd!
D. Rhys Davies
