
Camau prosesu deunydd adnau cyfreithiol
Fel Llyfrgell Adnau Cyfreithiolmae gan y Llyfrgell hawl i wneud cais am gopi rhad ac am ddim o bob llyfr, cylchgrawn a deunydd printiedig arall a gyhoeddir Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Iwerddon. O ganlyniad mae’r Llyfrgell yn derbyn ac yn prosesu miloedd o lyfrau bob wythnos. Mae’r nifer uchel o lyfrau yn golygu ei fod yn enghraifft berffaith o sut gall newidiadau bach wneud gwahaniaeth mawr i effeithlonrwydd proses.Sut felly mae mynd ati i sicrhau fod miloedd o lyfrau’n cael eu prosesu yn y ffordd mwyaf effeithiol ac effeithlon?
CAM 1: Darganfod yn union be sy’n digwydd ar hyn o bryd
Mae’n bwysig deall bob cymal yn y broses o’r dechrau i’r diwedd gan y gall newidiadau ar un pwynt yn y gadwyn gael effaith negyddol ar ran arall o’r gadwyn. Mae prosesu hefyd yn esblygu dros amser mewn ymateb i amgylchiadau amrywiol a gall fod rhai prosesau fod yn wahanol i’r ddogfennaeth sydd ar gael. Mae’n hanfodol felly i gael cymorth y staff sy’n gwneud y gwaith i egluro’n union beth yw’r camau a beth yw’r problemau a’r rhwystredigaethau mae nhw’n eu hwynebu o ddydd i ddydd.
Ar ôl mapio’r broses y canlyniad yw map o’r llif gwaith sy’n edrych rhywbeth fel diagram uchod!
