Ddoe mi ges i’r fraint o fynychu G?yl Feithrin Mudiad Ysgolion Meithrin yng Nghanolfan Glantwymyn ger Machynlleth. Roedd y plant wrth eu boddau yn cael eu diddanu gan y gantores dalentog Gwenda Owen a chafwyd ymddangosiad arbennig gan y bytholwyrdd…. Sali Mali.
Be’ oedd y Llyfrgell yn ei wneud yno medda chi? Wel, roeddwn i yno i hyrwyddo gwaith y Llyfrgell ymysg y rhieni ar neiniau ar teidiau. Roedd hi’n braf cael y cyfle i sôn am y Llyfrgell a’i thrysorau, ac i annog rhieni i ymweld â’r Llyfrgell boed ar daith tywys, i gael cinio yn caffi Pen Dinas neu i ddefnyddio’r stafelloedd darllen. Roedd nifer ohonynt yn falch ein bod bellach ar agor ar Sadyrnau, ac am fanteisio ar y gwasanaeth, er mwyn dod i weld ein harddangosfeydd.
Roeddwn wedi anghofio’n llwyr fod criw’r Porthmon yn cerdded defaid o Fachynlleth i Bow Street hefyd bore ddoe. Mi ddois ar draws y criw ddwywaith – yn gyntaf yn Derwen Las neu Derwen Lês fel mae pobl yr ardal yn ei ynganu ac yna yn Taliesin. Roedd y defaid i gyd wedi eu cneifio’n daclus ac i weld yn ufudd iawn wrth aros am arweiniad gan Ifan Evans, Y Porthmon.
Wrth sôn am y gyfres – da ni’n edrych ymlaen at groesawu criw ffilmio’r Porthmon yma fory i ffilmio casgliad Dr. Richard Phillips, ac i ffilmio cyfweliadau gyda’i ddwy ferch. Mae’n braf fod y Llyfrgell yn cael y cyfle i gyfrannu at raglen sydd wedi profi i fod yn boblogaidd iawn!
