Llechen Ystrad Fflur

Un eitem o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n destun rhyfeddod i bobl o bob oedran yw Llechen 1, Cell W7. Cafwyd hyd iddi gyda nifer o eitemau eraill yn Ystrad Fflur yn 1946. Mae’n edrych yn gwbwl ddinod, rhyw damed o lechen wedi ei hysgythru, gyda thwll yn y top. Yn ôl y sôn doedd y rhai wnaeth ei darganfod ddim yn credu ei bod yn bwysig iawn, ac ar un adeg bu bron iddyn nhw ei thaflu.

Diolch byth ei bod wedi goroesi a dod yn rhan o gasgliad Llyfrgell Genedlaethol Cymru. O’i gosod mewn cyd-destun hanesyddol gall fod yn adnodd dysgu effeithiol dros ben wrth esbonio themâu cymhleth i blant ysgol.

Daw’r llechen o’r 15fed ganrif, o tua’r flwyddyn 1470. Arni ceir gwybodaeth am fferm Hafodwen sy’n cynnwys tir mewn pedwar plwyf rhwng Afon Aeron ac Afon Teifi. Pwrpas y llechen oedd cofnodi’r rhent, ac mae’n rhestru sawl cawell (trugg) o geirch roedd yn rhaid i bob tenant dalu am ei dir.

Dyma agor y drws yn syth i esbonio maint cyfoeth a phŵer y mynachlogydd yn Oes y Tywysogion, a’r rhan ganolog oedd ganddyn nhw yn economi, diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru. Drwy ychwanegu mapiau, llawysgrifau a delweddau o gasgliad y Llyfrgell gallwn gyflwyno pecyn cynhwysfawr i blant, gyda llechen Ystrad Fflur yn brif eitem yn y canol.

Mae’r llechen hefyd yn cynnig y cyfle i gyflwyno’r Tuduriaid fel pwnc. Er ei bod yn dyddio o’r blynyddoedd cyn Brwydr Bosworth, mae’r hyn sydd arni yn cyfleu’n glir un o’r rhesymau, neu esgusodion, oedd gan Harri’r VIII dros ddiddymu’r mynachlogydd.

Mae’r ddau bwnc yma, sef bywyd yng Nghymru yn Oes y Tywysogion, a’r Tuduriaid, yn bethau sy’n rhaid i bob disgybl eu hastudio yng Nghyfnod Allweddol 2.

Mae unrhyw beth rhyfedd yn siŵr o ddal sylw plentyn, ac mae’r ysgythriad ar gefn y llechen sy’n dangos pen brenin gyda’i dafod allan bob amser yn ennyn trafodaeth.

Felly hefyd y tenantiaid sy’n cael eu henwi ar y llechen; does dim modd trafod enwau fel Dafydd ap y Mab Moel, Llywelyn ap Dafydd Ddu, neu Dafydd Dew ap Ieuan ap Gruffydd heb i blant ddysgu rhywbeth am y modd roedd y Cymry’n cymryd a throsglwyddo enwau neu ddisgrifiad o’u cyndeidiau yn eu henwau nhw’u hunain.

Yn aml iawn pethau annisgwyl sy’n dal sylw pobl ifanc, ac mae’r tamed yma o lechen yn drysor sy’n dal i ryfeddu ac addysgu.

Owen Llywelyn, Gwasanaeth Addysg LLGC

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Newyddion a Digwyddiadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.