Mae pwyllgor i drafod pa ffurf ar wybodaeth sydd ei angen yn medru swnio’n beth diflas – nifer o bobl o gwmpas bwrdd yn trafod beth yw’r ffordd orau o gofnodi dyddiad cylchgrawn neu bapur newydd a phethau tebyg.
Ond er ei fod yn swnio’n ddiflas hoffwn i ddatgan yn groyw iawn nad yw hynny’n wir o gwbl. Hoffwn nodi hefyd fod y gwaith yn hanfodol os yw’r adnoddau digidol mae’r Llyfrgell yn eu creu fel rhan o’i rhaglen a’i phrojectau digido yn mynd i fod yn rhai y gellir eu defnyddio’n hawdd ac yn effeithiol. Ac mae’n rhaid i hyn gael ei gynllunio cyn bod sôn am wefan na chynnig mynediad i neb.
Y gair technegol am y math o wybodaeth bues i’n ei thrafod yr wythnos diwethaf yw metadata. Yn fyr gellid dweud taw ystyr metadata yw ‘gwybodaeth am wybodaeth’, hynny yw y manylion hanfodol hynny sydd eu hangen er mwyn gwneud sens o bethau sydd wedi’u digido.
Roedden ni’n trafod cynllun y Llyfrgell Genedlaethol i ddigido ei holl ddaliadau o bapurau newydd a chylchgronau hanesyddol. Gan fod hynny’n golygu miloedd ar filoedd o dudalennau mae’n bwysig iawn ein bod yn rhoi trefn arnynt ac mae’n bwysig gwneud hynny mewn ffordd gyson a safonol. Mae’n gadwyn hir sy’n ymestyn o dudalen, i rifyn, i gyfrol, ac i rediad cylchgrawn. Ond mae mwy na hynny hefyd, rhaid cofnodi pob delwedd a phob ffeil destun sy’n perthyn i bob tudalen ac yna gwneud yn siŵr ein bod wedi cofnodi’r dyddiadau mewn ffordd sy’n golygu y gellir eu gosod yn y drefn gywir pan ddaw’r amser i’w rhoi ar-lein.
Dwi’n falch o ddweud fod ‘na bobl yn y Llyfrgell gyda’r wybodaeth a’r profiad i fedru gwneud hyn yn effeithiol a dyna sy’n gwneud trafod manylion yn gymaint o bleser.
LYN LÉWIS DAFIS
