Dychwelyd i Ddyffryn Aeron

Er mai dim ond wythnos sydd ers i Eisteddfod yr Urdd 2010 orffen, mae sylwebyddion eisoes yn cyfeirio ati fel un o’r eisteddfodau gorau o fewn cof. Roedd yn wythnos lwyddiannus iawn i Wasanaeth Addysg y Llyfrgell, ac roedd prysurdeb ein stondin ar y Maes yn rhoi’r cyfle i ni gyfarfod â llu o ddisgyblion, athrawon, rhieni a phobl eraill o bob rhan o Gymru.

Un o’r rhesymau am y llwyddiant oedd i ni dderbyn caniatâd i fynd ag eitem eiconig o gasgliad y Llyfrgell gyda ni i’r Eisteddfod. Am wythnos gyfan cafodd copi ffacsimili o Lyfr Gwyn Rhydderch ei arddangos yn yr Eisteddfod.
Dychwelyd i Ddyffryn Aeron oedd Llyfr Gwyn Rhydderch mewn gwirionedd oherwydd cafodd y llawysgrif ei chreu ar gyfer Rhydderch ab Ieuan Llwyd o Barcrhydderch, plwyf Llangeitho, tua’r flwyddyn 1350. Mae fferm Parcrhydderch yn dal i sefyll heddiw, er nad yw’n union yn yr un man ag yr oedd yn y 14eg ganrif.

Heddiw Parcrhydderch yw’r adeilad cyntaf welwch chi wrth groesi pont Gwenffrwd ar hewl y B4342, a chamu o blwyf Nantcwnlle i blwyf Llangeitho. Mae’n debyg bod y Parcrhydderch gwreiddiol yn agosach at lan Afon Aeron, sawl canllath o’r un sy’n sefyll nawr.

Mae cynnwys y llawysgrif hynod hon mor berthnasol â’i hanes. Chwedlau’r Mabinogi yw trysor mwyaf rhyddiaith Cymru, a Llyfr Gwyn Rhydderch yw’r copi ysgrifenedig cyflawn cynharaf o’r rhain.

Roedd yn braf gweld y llawysgrif hon yn dychwelyd i Ddyffryn Aeron am wythnos, ac yn brafiach fyth gweld ei bod yn dal i gyffroi a diddori pobl o bob oedran.

Owen Llywelyn, Gwasanaeth Addysg LLGC

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Newyddion a Digwyddiadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.