Gŵyl y Gelli

Yr wythnos hon mae llawer o lygaid ffyddloniaid y byd llenyddol wedi’u troi tuag at y Gelli Gandryll oherwydd fod yr ŵyl flynyddol, the Guardian Hay Festival Wales, yn cael ei chynnal yno. Mae’r ŵyl yn tyfu o flwyddyn i flwyddyn ac yn gyfle i lenorion a gweithwyr eraill ym maes y celfyddydau gwrdd â’u cyhoedd.

Bu’r Llyfrgell Genedlaethol, ynghyd â sefydliadau Cymreig eraill, yn cynnal stondin ar faes yr ŵyl am sawl blwyddyn. Ond eleni, am y tro cyntaf, roedd y Llyfrgell wedi cyd-weithio gyda’r ŵyl i gynnig sesiynau yn trafod rhai o drysorau’r Llyfrgell fel rhan o raglen swyddogol yr ŵyl. Yn nes ymlaen bydd trip o’r ŵyl yn dod lan i Aberystwyth i ymweld â’r Llyfrgell a bydd yr Athro Sioned Davies, Prifysgol Caerdydd, yn sgwrsio am y Mabinogi ac am Lyfr Gwyn Rhydderch ar faes yr ŵyl.

Ddydd Mawrth diwethaf fy nhro i oedd hi i gyflwyno un o’n trysorau i gynulleidfa Gŵyl y Gelli. Un ohonynt yw nifer o gyfrolau ac atgynhyrchiadau o waith y ffotograffydd Edward S Curtis yn cofnodi bywyd Indiaid gogledd America. Rhwng 1907 a 1930 bu’n gyfrifol am lywio trwy’r wasg ugain o gyfrolau sylweddol yn llawn ffotograffau trawiadol yn disgrifio pob agwedd ar fywydau cenhedloedd gorllewin y Taleithiau Unedig. Dwi’n falch i ddweud fod gan pobl y Gelli ddiddordeb i ddysgu mwy gan i ryw 150 ohonynt ddod i wrando ar sgwrs.

Mae’r cyfrolau yn bethau eithaf prin, yn arbennig felly yn Ynysoedd Prydain, ac  mae’r ffaith fod gan y Llyfrgell nifer ohonynt yn beth reit drawiadol. Daeth y cyfrolau i’r Llyfrgell fel rhodd oddi wrth Henry Blackwell, Cymro a oedd yn byw yn Efrog Newydd, ac yn gyfrifol am rwymo rhai o’r cyfrolau.

Bu llawer o ddadlau dros y blynyddoedd am agwedd Curtis a’i dîm tuag at yr Indiaid, ond nid oes dadl fod y ffotograffau eu hunain yn bethau prydferth iawn. Mae troi’r tudalennau o ffotograff i ffotograff yn brofiad gwefreiddiol. Dyma un o fy hoff ffotograffau i – menywod ifanc o genedl yr Hopi yn edrych i lawr o doeon eu cartrefi ar seremoni yn digwydd ar sgwâr y pentref. (Northwestern University Library, Edward S. Curtis’s ‘The North American Indian’: the Photographic Images, 2001)

Os am wybod mwy am waith Edward S Curtis ceir adran arbennig o ddifyr amdano ar wefan Llyfrgell y Gyngres, Washington D.C.

LYN LÉWIS DAFIS

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Digido. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.