Archifau Kyffin: cofnodion ariannol

Mae’r papurau ariannol sy’n rhan o Archifau Kyffin Williams yn taflu goleuni difyr ar ei yrfa fel arlunydd. Mae’r mwyafrif o’r papurau wedi goroesi ers y 1970au, sef y cyfnod ar ôl i Kyffin ymddeol fel athro’n Highgate, er bod rhai o’r cofnodion yn dyddio nôl i ddiwedd y 1930au.

Datgela’r archifau pa ddeunyddiau roedd Kyffin yn eu defnyddio, o ble’r oedd yn eu prynu yn ogystal â’u pris. Gwelwn fod yr arlunydd ifanc yn paratoi ei gynfasau ei hun, gan brynu “piece of canvas for own stretcher 33×26″ am 12s 6d gan George Rowney & Co. Ltd, Llundain, yn Awst 1945, tra’n defnyddio cynfasau oedd wedi eu paratoi’n barod yn nes ymlaen. Ceir manylion hefyd am lyfrau darlunio, brwshis a phaent a ddefnyddiai yn ystod ei yrfa hir – hyd yn oed y lliwiau a brynai!

Mae derbynebau ar gyfer fframio’r paentiadau a’r darluniau yn nodi pwy oedd wedi ymgymryd â’r gwaith a’r manylion, megis Robert Sielle, Kensington, fframiodd:
“Patagonian Rider in landscape to special design with imitation bronze rail: cutting down and restretching canvas £25 19s 9d”.

Cafodd gwaith Kyffin ei arddangos gan amryw orielau, ac mae cofnodion gwerthiant yn aml yn nodi teitl, cyfrwng, pris ac, ambell dro, mesuriadau lluniau. Mae’r papurau yma’n cadarnhau pryd y gwerthwyd eitemau penodol, ond gallant hefyd gynorthwyo wrth geisio dyddio paentiadau a darluniau. Yn ogystal adlewyrchir nifer y gweithiau a gynhyrchwyd ganddo, ac maent hefyd yn gofnod o’r cynnydd yn eu gwerth dros y blynyddoedd.

Sian Bowyer

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.