Gofalu am y casgliad

Mae gweithio ar gymynrodd Kyffin wedi bod yn daith arbennig o ddarganfyddiadau mewn sawl ffordd. Fel aelod o’r tîm a gasglodd y gwaith celf o stiwdio Kyffin fe darfu arnaf realiti yr achlysur wrth imi lwytho un o’r lluniau olaf i’r fan a syllu dros y Fenai – nid oedd y gŵr hynod hwn gyda ni mwyach, ond roedd ei rodd i’r Llyfrgell a’r Genedl yn sicrhau nad âi byth yn angof.

Gyda’r gweithiau celf yn ddiogel yn y Llyfrgell gallwn gychwyn ar fy ngwaith o ddifrif. Fel Swyddog Cadwraeth yn yr Uned Gadwraeth Ataliol, rwy’n asesu, cynllunio a chydlynu llif gwaith y tîm glanhau arbenigol, gan archwilio derbynion newydd i’r Llyfrgell am bryfaid a llwydni, a chymryd camau ataliol i sicrhau bod y casgliadau yn ddiogel ac wedi eu storio o dan amodau amgylcheddol derbyniol.


Y cam cyntaf yn y broses oedd archwilio pob paentiad yn ofalus, gan dynnu a chofnodi pryfaid marw a byw, adnabod ‘bwytawyr treftadaeth’, a nodi unrhyw ddifrod. Yna glanhau cefn y lluniau yn ofalus gan ddefnyddio sugnwyr llwch bychan arbennig i dynnu llwch, baw a darnau arwynebol. Yna eu hail-bacio er mwyn osgoi difrod – nid oedd fframiau ar y mwyafrif o’r paentiadau. Y cam nesaf oedd diogelu y gweithiau celf mewn fframiau storio i’w diogelu.


Bu’n rhaid gwneud pob ffrâm yn unigol i ffitio pob paentiad. Er bod maint y darluniau yn safonol roedd amrywiaeth yn nhrwch y cynfas, y paent acrylic ac olew. Prif bwrpas y fframiau yw amddiffyn y darluniau tra’n cael eu trafod a’u symud. Mae’r fframiau yn caniatau i’r gweithiau eistedd mewn gofod cilfachog diogel.

Pam Small

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Sylwadau wedi cau



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.