Ma’ sawl mis wedi mynd heibio ers i fi ysgrifennu’r blog yma diwethaf, a hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi o ochr ddigido’r prosiect.
Erbyn hyn y mae holl weithiau papur Kyffin Williams wedi’u digido a dwi wrthi yn creu metadata priodol er mwyn iddynt gael eu harddangos ar-lein yn y dyfodol. Mae hynny yn cynnwys cysylltu pob delwedd ddigidol â’i gofnod catalog. Mae hon yn broses hir, gan fod yna 1498 o ddelweddau unigol o fewn y casgliad papur wedi’u digido, a 34 llyfr braslunio sydd yn cynnwys 441 o ddelweddau digidol, a rhain i gyd angen eu cysylltu yn unigol!
Dau lun sydd yn perthyn i un o’r llyfrau braslunio rydw i wedi’u cynnwys y tro yma, gan eu bod, yn fy marn i yn dangos hiwmor Kyffin. Teitl y llyfr yma yw “Kyffin’s Fighting Cavalry”.
Fel y’ch chi’n gweld, y mae’r broses o ddigido yn mynd ymlaen yn raddol, gyda nifer o eitemau ar ganol cael eu gwneud, megis ei weithiau olew a’r gweithiau mewn ffrâm. Hefyd nifer o sleidiau sydd yn cynnwys delweddau o’i daith ym Mhatagonia yn 1968 (gweler cofnod ar ôl iddo ennill cymrodoriaeth Winston Churchill i gofnodi’r gymdeithas Gymraeg yno.
Lon Vaughan
