Y Storiwr

Bu Kyffin y storiwr ar fy meddwl dros y Calan. Ar yr achlysuron prin y clywais ef yn siarad, roedd wastad yn ddifyr (ambell waith yn hollol gomic), hoffus a thwymgalon. Byddai’n adrodd storiau am bobl, eu hanesion, a’u ffyrdd anghyffredin o ryngweithio.

Gwelwn ei ddawn fel storiwr ar ei orau yn ei gelf. Yn unigrwydd ei stiwdio fechan, llonyddwch y mynyddoedd, neu yn creu portread dwys, fe ddarganfu ffordd o gyflwyno stori bywyd, neu ddrama, gyda dim ond offer y peintiwr.

Mae arddangosfa ddiweddaraf yr Academi Frenhinol ar Van Gogh, sydd yn dangos ei luniadau a’i beintiadau ochr yn ochr â’i lythyron, yn esiampl o artist arall a ddefnyddiai pob cyfrwng oedd ar gael iddo er mwyn dathlu’r hyn a welai. Yn wir, hyd yn oed heddiw mae ei ymdriniaeth o’r cyffredin yn cynhyrfu ein teimladau am natur bywyd pob dydd.

Gwyddom bod Kyffin yn edmygu Van Gogh. Roedd gan Kyffin yr un angerdd a’r gallu gyda geiriau, a’r ddawn i ddefnyddio paent i gyfleu sut y teimlai am y byd o’i gwmpas.

Amsugnodd Kyffin y gorau o gelf Ewropeaidd gan ei gymhwyso i’w gynefin, a thrwy hynny agor ein llygaid i weld ein broydd a’n hunain mewn dull newydd.

Credaf fod adrodd storiau yn ffordd o fyw i Kyffin, yn ffurf o ymwneud â phobl; byddai’n mwynhau cynulleidfa ac yn ymateb i’w gwerthfawrogiad. Trwy ei Gymynrodd i Gymru mae’n adrodd ei stori i ni: bod realiti yn rhyfeddach na’r dychmygol.

Paul Joyner

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.