Cadwraeth

Rwy’n gweithio ar grŵp o bortreadau ar gyfer arddangosfa. Heddiw rwy’n gweithio ar y portread The Cleric. Wedi gosod y llun ar yr îsl gwelaf ei fod yn edrych yn fudr iawn gyda llwydni a phaent wedi tasgu drosto.

Rwy’n tynnu’r llun allan o’i ffrâm – mae iddo ffrâm gadwedigaethol gan iddo gyrraedd y Llyfrgell heb ei fframio. Ysgrifennaf adroddiad cyflwr gan nodi manylion am y llun – cynfas pwysau canolig a’i gefn wedi ei baentio â phaent olew gwyn, a hynny gyda brwsh mawr. Mae cryn dipyn o faw dros arwyneb y paentiad, gan gynnwys llwch atmosfferig, llwydni a phaent wedi tasgu.

Nesaf byddaf yn tynnu lluniau cyn-driniaethol o’r paentiad, yna ysgrifennu cynllun triniaeth sydd yn cynnwys glanhau y baw arwynebol a chefn y llun, ail-osod a thynhau’r lletemau er mwyn ail-densiynu y cynfas a’i ail osod yn ei ffrâm.

Nawr gallaf ddechrau trin y llun drwy ei lanhau. Gwnaf brofion byr ar ei ymylon gyda phoer a chanfod y gallaf lanhau’r baw gyda swabiau wadin a phoer – a dyna wnaf yn ofalus i’r paentiad cyfan. Tynnir y tasgiadau paent yn fecanyddol gan ddefnyddio scalpel finiog a gweithio o dan ficrosgop. Hwn yw un o’r camau mwyaf gwerth chweil i’r driniaeth. Datguddir holl liwiau gwreiddiol y paent, a dechreua’r paentiad edrych yn ffres unwaith eto.

Jenny Williamson

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.