Ffotograffau Kyffin

Daw ton o’r felan dros rywun wrth ddechrau pori drwy ffotograffau person ymadawedig. Wedi eu casglu’n frysiog mewn bocsys sgidie a thinie bisgedi, mae’r caleidosgop o ddelweddau’n datguddio bywyd sydd bellach wedi darfod. Yn anorfod mae yna bortreadau Fictorianaidd di-enw, babanod ceriwbaidd yn eu ffrils, cipluniau o blant hapus gyda’u bwcedi a’u rhawiau. Twrio ‘mhellach ac mae’r ceriwbiaid bach yn cael eu trawsffurfio’n oedolion ifanc difrifol a thrwsiadus. Rhagor o gipluniau, portreadau ffurfiol a lluniau gr?p, y cyfan yn cofnodi llwybr bywyd yr anwylyn.

Yr un yw’r patrwm gyda’r ffotograffau yn archif Kyffin Williams. Lluniau cynnar o fachgen bach gyda’i frawd, ychydig yn h?n, yn arwain at gyfnod llencyndod, gyda’i gi, beic neu gwch rhwyfo, ac yna’r portreadau gr?p yn cofnodi cyfnod gwasanaeth milwrol. Cam bach o’r fan honno i’r athro celf gyda’i fwstas Dalïaidd yn y 1950au, a’n ddiweddarach yr artist yn ei oferôls paentio neu siaced frethyn.

Diflanna’r felan yn sydyn wrth ddod ar draws dau gasgliad o sleidiau. Y naill yn dogfennu ei ymweliad â Phatagonia yn 1968-1969, a bywiogrwydd lliwgar Kodachrome yn dod â bywyd i’w ysgrifennu am y profiadau. Y casgliad arall, yn cynnwys tua 650 sleid, yn gofnod o’i weithiau celf – nifer ohonynt bellach yn bodoli fel yr unig gofnod cyhoeddus o’i waith. Y rhain yn dangos hefyd sut y newidiodd ei arddull dros y blynyddoedd a pham y tyfodd ei statws fel arlunydd.

Will Troughton

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Sylwadau wedi cau



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.