Dwi am ysgrifennu’r blog o ochr ddigido’r prosiect. Mae’r gwaith o ddigido’r casgliad wedi cychwyn ers mis Ebrill, ac y mae pob dim yn mynd yn dda.
Rydw i’n ystyried fy hun yn ffodus iawn, gan fod pob rhan o’r casgliad yn dod ata i ar ôl i’r catalogwyr orffen â nhw. Mae’r deunydd yma yn amrywio o’i weithiau ar bapur, llyfrau braslunio, olew, dyddiaduron, ffotograffau ac ar hyn o bryd sleidiau o’i waith olew, sydd fwy na thebyg wedi’u gwerthu ers blynyddoedd.
Rydw i yn nodi eu rhifau unigryw a’u llwytho ar ein llif gwaith yn barod i’r sganwyr wneud eu gwaith. Ar ôl i’r iddyn nhw orffen, bydd y deunydd yn dod nôl ata i unwaith yn rhagor er mwyn i mi wneud yn siwr bod y ddelwedd ddigidol yn cydfynd â’r deunydd gwreiddiol er mwyn i chi fel darllenwyr, neu syrffwyr y wê, gael gweld fersiwn ddigidol mor debyg ag sy’n bosibl i’r deunydd gwreiddiol.
Un peth sydd wedi fy syfardanu fwyaf am y casgliad ydy’r nifer o luniau o lefydd tramor sydd yma. Yn bersonol, roedd yr enw Kyffin Williams yn f’atgoffa i o ardal Eryri a’r Wyddfa yn benodol, ond mae yna gymaint o ddelweddau o Fenis, Rhufain, Patagonia a Pharis. Fy ffefryn hyd yn hyn ydy un o’i weithiau ar bapur o Baris, sef pont dros yr Afon Seine â’r Notre Dame yn y cefndir.
Lon Vaughan
