Archif Kyffin Williams

Dyma archif anhygoel! Ro’n i’n gyfarwydd â gwaith celf Kyffin wrth gwrs ond wyddwn i ddim llawer am y dyn ei hun. Daw ei gymeriad i’r amlwg drwy’r archif gyfan. Rhoddwyd rhywfaint o drefn ar y papurau cyn imi ddechrau gweithio ar y casgliad ac rwyf wedi treulio dipyn o amser yn gosod trefn ar yr holl eitemau unigol – rhai ohonynt yn fân bapurau. Mae’n siwr nad yw rhai o’r bwndeli a gasglwyd ynghyd blynyddoedd lawer yn ôl wedi gweld golau dydd ers hydoedd. Pwy a ŵyr beth ddaw i’r golwg bob dydd – ddois i ar draws y llun hyfryd yma, sy’n dangos Kyffin yn rhwyfo cwch pan oedd yn fachgen, ynghanol bocs bach o bapurau amryw yn perthyn i’w fam.

Sian Bowyer

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.