Catalogio’r gwaith celf

Ers Gorffennaf 2008, fy ngwaith yw catalogio’r gwaith celf sy’n rhan o Gymynrodd Syr Kyffin Williams. Rwy’n hoff iawn o’i waith, ac yn falch fy mod wedi ymweld ag ef cynt yn ei stiwdio, ac yn aml wedi cael budd o ymweld â’i arddangosfeydd. Felly mae’r cyfle yma i adnabod yn drylwyr ystod eang o’i waith, o ran cyfnod a chyfrwng, yn bleser o’r mwya i mi. Mae’r gwaith yma’n cynnwys darluniau lluniadu ar bapur, peintiadau olew ar gynfas, printiau leino a masnachol. O ran testun mae’r mwyafrif o dirlun Cymru, ond ceir hefyd portreadau, ac astudiaethau amrywiol o ffermwyr, cŵn ac anifeiliaid eraill; ynghyd â gweithiau o’i deithiau tramor.

Fesul eitem, rwy’n gweithio drwy’r casgliad, er mwyn cofnodi a rhoi disgrifiad manwl yng nghatalog y Llyfrgell, fel bod modd yn y dyfodol gweld cofnod a delwedd o’r eitem ar y wê fyd eang. Lle mae’n bosibl rwy’n ceisio adnabod lleoliad neu destun y gwaith celf unigol, gan ychwanegu amcangyfrif bras o’i ddyddiad creu. Rwyf hefyd yn catalogio yr amrywiaeth eang o weithiau celf artistiaid eraill, a gasglodd Kyffin dros y blynyddoedd. Mae rhain hefyd yn rhan o’r Gymynrodd hael sydd yma yn Aberystwyth.

Iwan Dafis

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.