Y Tîm

Dyma’r criw dethol sydd â’r cyfrifoldeb am ddisgrifio’r deunydd a gasglwyd o Bwllfanogl. Nhw sy’n cael y fraint o gyflwyno’r casgliad i Gymru a’r byd.

Siân Bowyer
Bu Siân, sy’n enedigol o’r Wyddgrug, ar staff y Llyfrgell ers dros 17 mlynedd. Treuliodd mwyafrif yr amser fel Archifydd Cynorthwyol, yn catalogio papurau llenorion amlwg fel Glyn Jones, Roland Mathias a Gillian Clarke. Ei her ddiweddaraf, wrth gwrs, yw trefnu a chatalogio papurau KW, sy’n cynnwys ei ohebiaeth a’i ddyddiadauron, gan roi cyfle iddi dreiddio i gymeriad a bywyd un o arlunwyr pwysicaf Cymru.

Iwan Dafis
Yn enedigol o Sir Benfro, ymunodd Iwan â staff y Llyfrgell yn 2008, yn benodol i gatalogio’r gwaith celf yng nghymynrodd KW. Er bod ei gefndir ym myd bancio a busnes, mae ganddo brofiad eang o’r byd celf. Yn arlunydd ei hun, gyda gradd mewn celfyddyd gain, mae bellach yn astudio Kyffin ar gyfer gradd uwch. Mae’n cael digon o gyfle felly, wrth fynd ati i gatalogio, i roi ei wybodaeth helaeth ar waith!

Will Troughton
Mae Will yn enedigol o Aberystwyth ac wedi bod ar staff y Llyfrgell ers 1992. Fel Llyfrgellydd Delweddau Gweledol, ef sy’n gyfrifol am y Casgliad Cenedlaethol o Ffotograffau Cymreig, yn cynnwys tua 800,000 o luniau – y casgliad mwyaf yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae’n gwneud trefn ac yn catalogio’r deunydd ffotograffig gwerthfawr yng nghymynrodd KW – yn cynnwys sleidiau, ffotograffau a negyddion, nifer yn darlunio tirwedd Cymru a Phatagonia.

Lon Vaughan
Yn wreiddiol o Foncath yn Sir Benfro, ymunodd Lon â staff y Llyfrgell yn 2008, yn Isadran Datblygiadau Digido. Cafodd brofiad o weithio ar brosiectau amrywiol a bellach, yn ei rôl fel swyddog metadata prosiect KW, hi yw’r ddolen gyswllt allweddol rhwng y catalogwyr a’r sganwyr – yn cadw cofnod a thracio symudiad y lluniau, y papurau a’r ffotograffau.

Barbara Davies

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.