Pwllfanogl

Diwrnod braf o Hydref oedd hi pan gefais y fraint o fod yn rhan o’r tîm fu’n casglu lluniau Kyffin o’i stiwdio yn Pwllfanogl. Roedd yr holl waith oedd yn ei stiwdio wedi ei adael i’r Llyfrgell a’n cyfrifoldeb ni oedd gwarchod a chludo y lluniau hyn i’r Llyfrgell.

Ar y diwrnod yma bu pedwar ohonom wrthi ar lan y Fenai yn symud, glanhau, pacio a dogfennu y lluniau nes iddi nosi. Yn luniau olew, dyfrlliwiau a phrintiau o bob maint, yn waith gan Kyffin ac aristiaid eraill. Ond yr hyn gofiaf mwy na dim am y diwrnod oedd yr olygfa ogoneddus oedd gan Kyffin yn Pwllfanogl, yn edrych dros y Fenai tuag at fynyddoedd Eryri. Mor lwcus oedd i fyw mewn llecyn mor braf, a mor lwcus oedden ni yn etifeddu y casgliad anhygoel yma gan yr artist bonheddig a hynaws fyddai bob amser yn gefnogol i’n gwaith a’n casgliad yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Gyda phob llun wedi ei lapio yn ofalus mewn bybl a’u llwytho ar y tryc, mi gloiais ddrws y stiwdio gan deimlo cymysgedd o dristwch a balchder yr un pryd. Y ni oedd i ofalu am y lluniau hyn rwan.

Lona Mason

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Blog Kyffin. Nodwch y ddolen barhaol.

Sylwadau wedi cau



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.