Yn dilyn marwolaeth yr arlunydd Syr Kyffin Williams yn 2006 derbyniodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru ran helaeth o’i ystâd, yn cwmpasu’r gweithiau a grewyd ganddo, ei gasgliad eang o gelf gan eraill, a’i archifau sy’n cynnwys ei ohebiaeth, dyddiaduron a ffotograffau. Bydd casgliad mawr ac eang o’r fath yn galluogi ymchwilwyr, myfyrwyr ysgol a choleg, yn ogystal ag unigolion sydd â diddordeb yn Kyffin, i ehangu eu dealltwriaeth o fywyd a gwaith yr arlunydd, sy’n cael ei gyfrif yn un o artistiaid amlycaf Cymru’r ugeinfed ganrif.
Cyn medru rhyddhau’r casgliad mae’n rhaid ei gatalogio a’i ddigido, a sefydlwyd Prosiect Cymynrodd Kyffin Williams i’r diben hwnnw. Daw’r prosiect i ben yn Ionawr 2011. Bwriad y blog hwn yw darparu’r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r catalogio ac agweddau eraill o’r prosiect, yn ogystal â chyfeirio at ambell eitem ddiddorol a ddaw i’r golwg wrth gatalogio.
Ceir rhagor o wybodaeth am y gymynrodd a’r prosiect ar dudalen Cymynrodd Kyffin Williams ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Google Analytics
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC) yn defnyddio Google Analytics ar y blog hwn er mwyn casglu gwybodaeth ystadegol i greu adroddiadau ar sut mae defnyddwyr yn defnyddio’r blog. Bydd yr adroddiadau hyn yn eu tro yn cael eu defnyddio er mwyn llywio datblygiadau newydd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chasglu drwy ‘cookies’, sef ffeiliau testunol sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur er mwyn casglu gwybodaeth log rhyngrwyd safonol sy’n anhysbys (gan gynnwys cyfeiriad IP) – sydd wedyn yn cael ei danfon at Google.
Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir er mwyn ceisio adnabod ei defnyddwyr arlein, nac yn caniatau i drydydd person wneud hynny. Ni fydd Google yn cysylltu eich cyfeiriad IP gyda unrhyw ddata arall a gedwir gan Google. Ni fydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru, na Google yn creu cyswllt, nac yn ceisio creu cyswllt rhwng cyfeiriad IP a gwybodaeth adnabod unigolyn.
