Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at yr wythnosau nesaf i gael mynychu dwy briodas yn Sir Fôn.
(er nid priodas ddwbl, fel sydd yn y llun yma o gasgliad Geoff Charles mohonynt!)

Double Wedding - Shrewsbury
Wyddoch chi fod modd priodi yn y Llyfrgell Genedlaethol erbyn hyn?
Mae Ystafell y Cyngor, gyda’i phaneli a’i harddull art nouveau, ac Ystafell y Llywydd gerllaw, gyda’u golygfeydd digyffelyb, wedi’u trwyddedu ar gyfer seremonïau priodas a phartneriaethau sifil, a seremonïau adnewyddu addunedau.
Rydym eisoes wedi cael dwy briodas yma, ac mae nifer o briodasau erailll yn y dyddiadur! Mae’n braf gallu dangos i Gymru fod mwy i’r Llyfrgell Genedlaethol na llyfrau yn unig.

Elin a Sean - y cwpl cyntaf i briodi yn y Llyfrgell.
Nôl ym mis Ebrill cynhaliwyd Ffair Briodas gyntaf y Llyfrgell – diwrnod llwyddiannus dros ben! Dros 30 o stondinau amrywiol, ceir, dwy delynores heb anghofio tair Sioe Ffasiwn gan Huw Rees Brides… ia, dyna chi, y dyn ei hun -Huw Ffash! Roedd hi’n nefoedd i unrhyw ddarpar briodferch i gael gweld y ffrogiau hardd yn cael eu modelu yn Ystafell y Cyngor gyda’i golygfeydd godidog o fae Ceredigion.
Ydych chi yn chwilio am leoliad unigryw i briodi? Ydych chi eisiau bod ffotograffau eich priodas yn rai y gwnewch eu trysori am byth? Yna dewch i gysylltiad â ni – byddem yn barod iawn i drafod eich anghenion er mwyn gwneud yn siŵr bod eich diwrnod mawr yn un bythgofiadwy.
priodas@llgc.org.uk
