‘Witches and wizards in Wales’, dyna deitl darlith ddifyr Richard Suggett a draddododd yn y Drwm ym mis Medi 2006, a chyhoeddwyd ei lyfr pwysig A history of magic and witchcraft in Wales ddwy flynedd yn ddiweddarach. Ar y pryd roeddwn yn ffodus i gael y cyfle i gatalogio wyth o swynion yn erbyn dewiniaeth (17eg-20fed ganrif) sydd ymhlith ein casgliadau ni yma (NLW MS 15557C).
Ysgrifennwyd swynion mewn inc ar bapur o faint penodol, ac arferwyd eu rholio, a’u selio mewn potel. Yna gosodwyd nhw uwchben drws neu claddwyd hwy o dan y llawr. Cafodd un swyn ei ddarganfod o dan drawst yn Gelli Bach, Glyn Ceiriog (NLW MS 6746C). Daethpwyd o hyd i swyn arall mewn tun wedi’i osod yn wal beudy ar fferm ger Bishop’s Castle, swydd Amwythig (NLW MS 15557viiiC, llungopi).
Tueddai’r swynion i ddilyn fformiwla mewn cyfuniad o Saesneg a Lladin bratiog. Ceir tair rhan i’r swyn – yn gyntaf gweddi yn gofyn am warchod y person dan sylw a’i wartheg rhag pob math o bethau drwg. Yna gelwir ar Dduw, y Doethion a’r efengylwyr. Yn drydydd, ar waelod y swyn, ceir dau arwydd hudol, sef abracadabra ar ffurf triongl a’i ben i waered ar y chwith, a chylch ar y dde gydag arwyddion planedol neu seryddol rhyngddynt.
Mae’r rhan fwyaf o’r swynion yma’n y Llyfrgell yn tarddu o gefn gwlad canolbarth a gogledd Cymru. Ond beth am Geredigion? Cafodd swyn a wnaed yn 1926 ei ddarganfod ym Mhontarfynach (NLW MS 5563C), ac mae chwech o swynion, [1830]-[1937], i ddiogelu anifeiliaid aelodau teulu Lewis, Felinganol, Llanrhystud, rhag dewiniaeth i’w cael ymhlith eu papurau. Felly dyna brofi fod pobl ofergoelus yng Ngheredigion hefyd!
Ann F. Evans


