Tybed beth yw hanes a thraddodiad o ‘gicio’r bar’ – y canllaw metal ar hyd y prom – wrth droed Craig Lais (Consti) yma yn Aberystwyth?
Rwy’n siwr bod nifer o ymwelwyr â’r Llyfrgell yn cadw’r hen draddodiad yma wrth iddynt fynd am dro ar hyd promenâd hardd y dre. Efallai i chi ‘gicio’r bar’ eich hun wedi i chi gerdded o’r harbwr yr holl ffordd ar hyd y prom ar noswaith hyfryd o haf wrth wylio’r haul yn machlud?
Mae un o’m ffrindiau gorau yn byw yn ninas Norwich ond bu’n fyfyriwyr yn y Brifysgol yn Aberystwyth nôl yn y saithdegau. Gan fod Aberystwyth dal yn agos iawn i’w galon bydd yn galw ‘nôl i ymweld â’r dref o leiaf dwywaith y flwyddyn.
Ar y noson olaf cyn dychwelyd i Norwich, beth bynnag yr achlysur neu’r tywydd, bydd yn mynnu cerdded ar hyd y prom er mwyn cael ‘cicio’r bar’. Dyma’r ‘amen’ ar ei ymweliad – y weithred olaf i gloi ei hoe yn Aberystwyth.
Ond bellach does dim rhaid iddo ef, na chi, gerdded ar hyd y Prom i gicio’r bar. Hyd nes mis Mawrth 2012 me na gyfle iddo ef ac i chi gicio’r bar tu fewn i’r Llyfrgell Genedlaethol pan ddewch i fwynhau ein prif arddangosfa, Hamddena.
Mae’r arddangosfa fawr hon yn ymwneud â hoff weithgareddau hamdden pobl Cymru ar hyd yr oesoedd.
Gellir camu yn ôl mewn amser wrth chwilota drwy gasgliad o ffotograffau, llawysgrifau, posteri, darluniau a ffilmiau godidog ac amrywiol y Llyfrgell gan ddarganfod beth oedd adloniant yn y dyddiau a fu.
Wrth fynd drwy’r cyntedd lle mae gêm enfawr o wyddbwyll a gemau llai eraill, mae bar fetal ar draws y mynediad i’r brif oriel arddangos. Mae’r bar fetal yma yn debyg i’r un a geir ar y Prom yn Aberystwyth. Ac ie, mae croeso, yn wir, mae cyfarwyddir i chi ei chicio! Ciciwch y bar yn y Llyfrgell Genedlaethol!
Felly dewch i ymweld ag un o lyfrgelloedd mawr y byd i gicio’r bar ac hefyd i fwynhau yr amryw arddangosfeydd ac un o’r golygfeydd godidocaf sydd gan unrhyw lyfrgell i’w chynnig!
Emyr Lloyd Jones
