Cefais y cyfle rai wythnosau’n ôl i fynychu cynhadledd flynyddol y Text Encoding Initiative a gynhaliwyd eleni yng Nghanolfan Golygu Digidol Prifysgol Würzburg o Hydref y 10-16.
Mae’r TEI yn safon metadata ar gyfer amgodio testun mewn ffurf ddigidol, a ddefnyddir yn eang gan lyfrgelloedd, amgueddfeydd, cyhoeddwyr ac ysgolheigion i gyflwyno testunau ar gyfer ymchwil ar-lein, dysgu a chadwraeth. Mae’r gynhadledd flynyddol yn gyfle i gwrdd â phobl sy’n gweithio yn y maes, dysgu am brosiectau newydd, rhannu ymchwil a dysgu am ddatblygiadau diweddar ym maes TEI. Yma yn y Llyfrgell rydym yn defnyddio safon TEI i amgodio’n testunau digidol, yn bennaf y Bywgraffiadur Ar-lein a Chylchgronau Cymru Ar-lein.
Dyma raglen y gynhadledd, sy’n cynnwys crynodebau o’r cyflwyniadau a’r papurau.

Alte Mainbrücke
Manteisiais ar y cyfle i dreulio rhai diwrnodau ychwanegol yn edrych o amgylch Würzburg, dinas yn y rhan o Franconia sy’n gorwedd ar begwn gogleddol Bavaria yn yr Almaen. Rhennir y ddinas gan yr afon Main, gyda nifer o bontydd yn croesi’r afon, ac mae’r brif bont, yr Alte Mainbrücke, wedi ei haddurno gyda cherfluniau o seintiau ac enwogion. Y bont yma a ddefnyddiwyd fel rhan o logo’r gynhadledd.
Dinistriwyd canol dinas ganoloesol Würzburg gan belen o dân, a lladdwyd tua 5,000 o bobl pan dargedwyd y ddinas mewn cyrch awyr gan awyrennau bomio Prydeinig ar y 16eg o Fawrth 1945. Yr oedd ymweld ag arddangosfa yn neuadd y ddinas a oedd yn cynnwys model o’r ddinas fel yr oedd ar ôl ei dinistrio yn brofiad emosiynol iawn. Ail-grewyd yr adeiladau o bwys hanesyddol yn ofalus a chywir yn ystod yr 20 mlynedd yn dilyn y rhyfel, ac mae unwaith eto’n ddinas hyfryd a byrlymus, ac yn llawn pensaernïaeth ddiddorol.
Yr adeilad mwyaf trawiadol yw’r Würzburg Residenz, Safle Treftadaeth y Byd UNESCO.

Würzburg Residenz
Bydd y rhai ohonoch a welodd y ffilm The Three Musketeers yn adnabod y lle: dyma Versailles!
Traddodwyd y prif gyflwyniad agoriadol gan Edward Vanhoutte yn y Toskana-Saal yn y Residenz, neuadd drawiadol, gyda nenfwd a phaneli peintiedig gwych, a’r derbyniad i ddilyn yn Amgueddfa Martin von Wagner drws nesaf. Ceir hefyd seleri gwin enwog o dan Residenz, a threfnwyd ymweliad â’r rhain yn ystod y gynhadledd. Yn ogystal â chael cyfle i brofi nifer o’r gwinoedd y mae’r ardal yn adnabyddus amdanynt, yr oedd hefyd yn gyfle i gymdeithasu a dod i adnabod mynychwyr eraill y gynhadledd, ac i drafod ein gwahanol brosiectau.
Os am fwy o wybodaeth am ddinas Würzburg, ewch i:
Gallwch weld y ffotograffau a dynnais o Würzburg ar fy nhudalen Flickr:
Morfudd Nia Jones
