Merched y Drenewydd – ddoe ac heddiw

Ers rhai blynyddoedd bellach mae’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod cynnal cyfres o ddigwyddiadau y tu allan i Aberystwyth.  Y llynedd Wrecsam oedd ein tref fabwysiedig, eleni’r Drenewydd bu’n estyn croeso i’r Llyfrgell gynnal deu fis o ddigwyddiadau yn yr hydref.

Fel rhan o’r ymgyrch hyrwyddo ar gyfer digwyddiadau’r Drenewydd defnyddiodd y Llyfrgell ffoto hyfryd gan Geoff Charles o dair merch ifanc yn Eisteddfod Genedlaethol y dref yn 1965.  Defnyddiwyd y llun mewn posteri, taflenni, hysbysebion a baneri stryd. Ond pwy oedd y tair merch ifanc?

Yn dilyn apêl gyhoeddus, llwyddom i ddod o hyd i’r menywod a’u dod at ei gilydd am aduniad yn Theatr Hafren yn y Drenewydd.  Yno, ynghanol ein harddangosfa, ‘Hen Drenewydd’, oedd yn llawn hen luniau o’r dref, roedd y llun gwreiddiol o’r tair merch  ifanc. Roedd yr aduniad yn llwyddiant mawr.

Y merched yw: (o’r chwith)

Jane, Nerys a Daphne yn Eisteddfod 1965

Jane Brandrich – Mae Jane nawr yn ei 50au ac yn dal i fyw yn yr ardal. Mae hefyd yn  gyfnither i Daphne sydd yn y llun. Mae hi’n nawr yn gweithio mewn deintyddfa yn yr ardal.

Nerys Jones – Mae Nerys nawr yn byw ym Methel, ger Caernarfon. Bu’n byw yn Llundain, Cheltenham ac Aberystwyth cyn symud i’r Gogledd. O Sir Drefaldwyn daw rhan fwyaf o ei theulu ac mae’n ymweld â’r ardal yn aml.

Daphne Jones (nee Black) – Mae Daphne yn dal i fyw yn yr ardal ac yn rhedeg busnes y Penllwyn Lodges a Chlwb Golff Lakeside, Garthmyl ger y Drenewydd. Mae’n briod a chanddi dri o blant.

Dyma’r llun o’r tair merch nawr.  Tynnwyd y llun yn yr aduniad yn Theatr Hafren ym mis Hydref.  Roedd yn dda iawn gweld Daphne yn noson y Llywydd hefyd a gynhalwyd ar nos Iau 10 Tachwedd yn yr Elephant and Castle yn y Drenewydd.

Janes, Nerys a Daphne

Yn 2012 Abertawe fydd y lleoliad ar gyfer digwyddiadau Estyn Allan y Llyfrgell.

‘Sgwn i pa ddelwedd fydd y Llyfrgell yn ei ddefnyddio bryd hynny?

.. reit, oes ganddom ni ffotograffau o hen Eisteddfodau yn y ddinas honno? Ferched Abertawe – rydym wedi eich rhybuddio!

 

 

 

Nia Lewis

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Newyddion a Digwyddiadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>