Gwefr catalogio archifau yw’r annisgwyl. Mae’n syndod o hyd pa ddogfennau difyr a phwysig ddaw i’r golwg yng nghanol pentwr o bapurau ddigon di-nod yr olwg. Profiad felly fu rhestru papurau Syr John Rhŷs (1840-1915), Athro Celteg cyntaf Prifysgol Rhydychen, a Phrifathro Coleg Iesu. Derbyniodd y Llyfrgell yr archif fel rhan o gasgliad Syr Idris Foster (a fu hefyd yn Athro Celteg yn Rhydychen) yn 1978. Ers hynny, oherwydd natur yr archif, ac heb restr i gynorthwyo darllenwyr, prin iawn yw’r ymchwilwyr dewr sydd wedi mentro archwilio cynnwys y bocsys.
Roedd Syr John yn ddyn hynod, â’i wreiddiau yn ardal Ponterwyd, sir Aberteifi. Ganed ef ym mwthyn Aberceiro-fach, ac aeth ymlaen i astudio yn y Coleg Normal ym Mangor, Coleg Iesu (Rhydychen), a Phrifysgol Leipzig. Bu’n Brifathro yn Ysgol Rhosybol, Môn (“painstaking and energetic teacher” yw’r disgrifiad ohono ar ei dystysgrif athro), ac yn Arolygwr Ysgolion yng ngogledd-ddwyrain Cymru, cyn ei ethol i’r Gadair Gelteg newydd ym Mhrifysgol Rhydychen yn 1877. Cydnabuwyd ef yn ysgolhaig eithriadol ac yn un o’r arloeswyr pennaf yn y maes astudiaethau Celtaidd. Mae’r teyrngedau yn y casgliad yn ei ddisgrifio yn ŵr llawn ‘tân Celtaidd’, brwdfrydedd, a dychymyg, yn gyfeillgar, yn ymchwilydd diwyd, ac yn falch o’i Gymreictod.
Cynnwys yr archif cyfres arbennig o ohebiaeth, drafftiau o’i weithiau cyhoeddedig, nodiadau ymchwil (rhai, ar ffurf dyddiadur, yn cofnodi teithiau i ymweld â cherrig ogam), papurau personol a theuluol, a ffotograffau. Mae’n debyg taw’r cyfoeth o lythyrau at John Rhŷs, gan unigolion o Gymru a thu hwnt, fydd yn denu sylw ymchwilwyr, yn enwedig rhai sydd â diddordeb ym maes astudiaethau Celtaidd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif. Ymhlith y gohebwyr mae Oscar Wilde, S. L. Clemens (Mark Twain), T. E. Lawrence (Lawrence o Arabia), Constance Markievicz, a Theodore Roosevelt; ieithegwyr o Brydain ac Ewrop; a Cheltegwyr (gan gynnwys, mae’n debyg, y grŵp helaethaf o lythyrau sydd wedi goroesi gan Whitley Stokes).
Roedd cylch gohebwyr John Rhŷs yn eang iawn. Dengys yr ohebiaeth fod unigolion oedd yn adnabyddus mewn amryw feysydd (gan gynnwys anthropoleg, seryddiaeth, archeoleg, Eifftoleg, ac hyd yn oed Assyrioleg), hefyd yn ymddiddori mewn hynafiaethau, astudiaethau Celtaidd, a phatrwm a datblygiad ieithoedd yn ystod y cyfnod hwn. Ar adeg pan oedd pobl yn llythyru’n gyson, gallwn ddilyn datblygiadau yn y meysydd ymchwil hyn drwy gyfrwng trafodaethau’r gohebwyr. Yn ddifyr iawn, maent hefyd yn dangos sut esblygodd rhwydwaith eang o gyfeillion John Rhŷs, a’r cymorth a gafodd gan hynafiaethwyr lleol brwdfrydig wrth gofnodi cerrig ogam ac arysgrifau ym Mhrydain a’r Iwerddon.
Siân Bowyer

