O farw’n fyw – dyna hanes yr iaith Gernyweg ers i’r mudiad i ail-sefydlu’r iaith ychydig dros ganrif gan Henry Jenner.
Defnyddir llwyddiant digamsyniol yr Hebraeg fel cynsail ar gyfer y Gernyweg. Ond roedd dau wahaniaeth mawr rhwng y ddwy iaith. Yn gyntaf, ni fu i’r Hebraeg erioed farw’n llwyr fel iaith lafar ac yn sicr fel iaith ysgrifenedig. Yn wir, fel tystiodd Elizier ben Yehuda wrth iddo lanio yn Jaffa yn 1881, roedd modd cyfathrebu mewn Hebraeg syml gyda’r Iddewon oedd eisoes yn byw ym Mhalestina. Roedd hyn gan fod pob Iddew wedi derbyn peth addysg litwrgaidd yn yr iaith. Yn hynny o beth, byddai’n gymharus â siarad Lladin gyda dyn o ddysg yn y Canol Oesoedd. Nid iaith gelain oedd Hebraeg felly, roedd cynsail i’w llefaru a’i defnyddio ymysg Iddewon. Roedd Hebraeg hefyd yn iaith ysgrifenedig gyfoethog, felly, doedd cyfundrefn orgraff safonol iddi.
Dyna ddwy her fawr felly i iaith Cernyw. Wrth i garedigion yr iaith fynd ati i’w hadfer fe ddefnyddiwyd hen lawysgrifau er mwyn canfod geirfa, cystrawen a llenyddiaeth. Ymysg y llawysgrifau oedd Beunans Meriasek sydd yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol. Drama ddefosiynol mewn dau ran a geir yma yn dyddio o ddiwedd y bymthegfed ganrif. Yn ogystal â Beunans Meriasek, ceir yn y Llyfrgell hefyd eiriadur bychan a nodiadau’r ieithydd, Edward Lhuyd, yn yr iaith. a sawl llawysgrif arall.
Mae’r Llyfrgell, a chasglwyr Cymreig cyn hynny, wedi gwneud cymwynas â chadw deunydd prin a phwysig yn yr iaith Gernyweg. Ond, ceir problem. Y drwg gydag adfer iaith sy’n seiliedig ar hen ysgrifau yw bod rhywun yn ddibynnol ar fympwy sillafu ac orgraff ysgrifennwr y llawysgrif a hynny mewn cyfnod pan na fu sillafu safonol mewn ieithoedd gwladwriaethol fel Saesneg hyd yn oed. Ceir amrywiaeth mewn cyfnod, lleoliad, dealltwriaeth a chwaeth bersonol. Ychwanegid at hynny nad oes modd dweud i sicrwydd sut ynganwyd y geiriau hynny, a daw’r her yn fwy.
A dyma sefyllfa’r Gernyweg. Cafwyd pum gwahanol orgraff ar ei chyfer yn ystod y cyfnod cyfoes gyda Kernewek Kemmyn y mwyaf poblogaidd. Cafwyd sawl ffrae gyhoeddus am orgraff yr iaith nes bu’n rhaid gwneud penderfyniad a hynny yn rhannol oherwydd llwyddiant y mudiad iaith. Yn 2005 dyfarnwyd y gallai’r Gernyweg cael ei chydnabod fel iaith leiafrifol gan Lywodraeth San Steffan ac Ewrop. Ond i hynny ddigwydd, roedd rhaid cael un ffurf safonol fel y gall yr iaith cael ei defnyddio gan bawb … a derbyn cymhorthdal.
Canlyniad hyn bu derbyn Furv Skrifys Savonek (Ffurf Ysgrifenedig Safonol) yn 2008. Dyma’r ffurf a ddefnyddir gan y corff llywodraethol Maga – partneriaeth yr iaith Gernyweg (fersiwn Cernyw o Fwrdd yr Iaith Gymraeg).
Ond, cyn i chi feddwl mai’r Gernyweg yw’r unig iaith sy’n cael dadleuon a thrafodaethau dros orgraff, cofiwch fod hyn yn rhywbeth cyson a byd-eang. Dros y blynyddoedd diweddar cafwyd newid i orgraff Portwgeeg ac Almaeneg. Bu her wahanol yn Azerbaijaneg wrth iddynt drafod nid dim ond newid orgraff ond newid gwyddor. Yn wir, camp fawr y Cernywiaid oedd llwyddo i safoni orgraff mewn rhai blynyddoedd yn unig – camp a gyflawnwyd dros ganrifoedd gan y rhan fwyaf o ieithoedd Ewrop.
Ond nid yn Ewrop y ceir yr unig drafodaeth ar orgraff a safoni iaith. Mewn ffordd mae Cernyw yn ddolen i drafodaeth ar gyfandir Affrica ar beth yw iaith a beth yw iaith safonol, ysgrifenedig?
Mae’r ieithydd a chenedlaetholwr Affricanaidd, Yr Athro Kwesi Kwaa Prah o’r Centre for Advanced Studies of African Society (CASAS) yn rhan o fudiad trawsgyfandirol i safoni clystyrau o ieithoedd/tafodieithoedd Affricanaidd brodorol yn ieithoedd ‘newydd’ unedig safonol.
Mewn modd tebyg i’r ffordd yr ‘unwyd’ ieithoedd/tafodieithoedd yr Eidal o Sisili i Lombardia gan iaith safonol, ysgrifenedig, ceisiai’r Athro Prah wneud gyda gwahanol gontinwwm ieithyddol Affrica. Mae dadl yr Athro Prah yn syml a chwyldroadol. Nid oes gan Affrica ‘gannoedd o ieithoedd’ fel dwedir yn aml ond yn hytrach llond dwrn o deuluoedd ieithyddol gyda thafodieithoedd sy’n ddigon agos i’w huno o dan un orgraff safonol. Yn hytrach na channoedd o ieithoedd felly, mewn gwirionedd, ceir nifer llawer llai. Cred Yr Athro Prah a’i gyfeillion fod 75-80% o ieithoedd Affrica yn perthyn i ddwsin clwstwr ieithyddol mawr.
Fel gyda’r Gernyweg, rhan o’r ‘broblem’ oedd bod gwahanol bobl wedi cofnodi gwahanol fersiynau o’r ieithoedd, ar wahanol adegau mewn gwahanol fannau. Yng nghyd-destun Affrica, ceid yn aml genhadon o wahanol enwadau o wahanol gefndiroedd ieithyddol yn cofnodi gwahanol fersiynau o’r iaith. Mae fel petai, Eidalwr wedi cofnodi’r Gymraeg yng Nghaernarfon a’i safoni a’i alw’n iaith Gwynedd a Rwsiad wedi cofnodi a safoni’r Gymraeg yng Nghrymych a’i alw’n iaith Dyfedeg.
Er enghraifft, dadleua’r Athro Prah fod Zulu, Xhosa, Swati, Ndebele, Shangaan, Ngoni, Tumbaka, and Ntsenga yn rhannu 85% o’i geirfa ac yn gontinwwm ieithyddol sy’n ddigon agos i greu un iaith safonol y teulu Nguni. Wrth gwrs, gall pobl dal i siarad eu tafodiaith eu hun, ond bod cytundeb ar yr iaith safonol a ddysgir mewn ysgolion ac a ddefnyddir yn gyhoeddus. Gan hynny, dedlir y bydd yr ieithoedd brodorol Affricanaidd yn elwa o farchnad ieithyddol fwy, cryfder undod a bri – ffactorau fyddai’n ddigon cryf i wrthsefyll neu sefyll ysgwydd yn ysgwydd â’r ieithoedd gwladychol fel Saesneg neu Ffrangeg.
Felly, o lawysgrifau prin Cernyweg yn y Llyfrgell Genedlaethol Gernyw i Israel ac i Affrica, fe unir pob un â’r angen a’r ysfa am iaith safonol ysgrifenedig.
Siôn Jobbins
