Nadolig Llawen!

Gyda’r Nadolig yn agosáu ni allaf feddwl am well ffordd o gofnodi amser hwn o’r flwyddyn na thrwy gynnwys delweddau Nadoligaidd o gasgliadau’r Llyfrgell ar y blog. Mae’r delweddau ‘dwi wedi eu dewis yn perthyn i gasgliad ffotograffig Geoff Charles- yr enwog ffoto newyddiadurwr a roddodd 50 mlynedd o’i oes i bortreadu Cymru trwy lens ei gamera.

Mae’r ffotograff cyntaf yn dangos Siôn Corn yn cyrraedd yr Amwythig yn Rhagfyr 1950 gan ddefnyddio ffordd anarferol iawn o deithio! Roedd cannoedd ar gannoedd o deuluoedd yn disgwyl amdano i’w groesawu i’r ardal.

Siôn Corn yn cyrraedd yr Amwythig (GCH01232)

Siôn Corn yn cyrraedd yr Amwythig (GCH01232)

Mae’r ail ffotograff yn dangos Mrs Mary Edwards o Fferm Y Ro-wen, Conwy, yn Rhagfyr 1963, fu’n fuddugol gyda’i rysáit cacen Nadolig.

Mrs Mary Edwards, Fferm Y Ro-wen, Conwy (GCH33787)

Mrs Mary Edwards, Fferm Y Ro-wen, Conwy (GCH33787)

Dengys y ffotograff olaf griw o fechgyn ifanc, yn ystod Gaeaf 1954, yn adeiladu iglw yn yr eira.

Adeiladu iglw yn yr eira (GCH07497)

Adeiladu iglw yn yr eira (GCH07497)

Gallwch weld rhagor o luniau Geoff Charles ar ein catalog ar-lein neu drwy edrych ar ein tudalen Flickr Commons.

Nadolig Llawen bawb!

Bethan Rees

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Digido. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,658 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>