Pan roedd Niclas y Glais yn y carchar yn Brixton ac Abertawe yn 1940 ysgrifennodd nifer o gerddi ar ddarnau o bapur tŷ bach ac ar gefn sgrapiau o bapur. Ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r carchar, cyflwynodd y llawysgrifau gwreiddiol yma i’r Llyfrgell Genedlaethol. Cawsant eu cyhoeddi yn y cyfrolau Llygad y Drws: Sonedau’r Carchar a Canu’r Carchar yn 1940 a 1942.
Bellach a hithau yn 2012 mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn cyhoeddi fersiwn digidol ohonynt. Gellir gweld y gyfrol gyfan yn llawysgrif Nicals y Glais ar y Drych Digidol ynghyd â hanes ysgrifennu’r gyfrol. Gwelwn gynllun ar un o’r tudalennau ar gyfer clawr y gyfrol ‘Llygad y Drws’ gyda’i enw a’i rif carcharor arno ‘Estron 2740’, a darlun o’r llygad yn y drws.
Mae soned ‘Llygad y drws’ yn cloi gyda’r disgrifiad hwn o Niclas y Glais yn ei gell :
Llygad ar ben y drws heb ynddo gannwyll,
A’r gwyliwr yn sylldremu drwyddo, dro,
A’r hen werinwr caeth yn suddo’n amwyll
I freuddwyd am fwynderau yr hen fro;
Drws heb gliced arno ond tu faes,
A minnau o’r tu mewn yn llipryn llaes.

Clawr Llygad y Drws (NLW MS 13692A, fol 31 r.)
Yn ddiweddar derbyniodd y Llyfrgell rodd garedig o gerddi gan T. E. Nicholas neu ‘Nicals y Glais’ gan wraig o Ystalyfera oedd wedi darganfod y cerddi ar gefn darlun oedd ganddi yn y tŷ. Ysgrifennwyd y cerddi i William Lewis, dyn a oedd yn rhannol gyfrifol fod Niclas y Glais wedi dychwelyd o’r Amerig i’r Glais yng Nghwm Tawe am iddo roi galwad iddo i ddod yn fugail yno yn 1904. Roedd William Lewis yn ffermwr cefnog, yn ddiacon yng nghapel y Glais ac yn gyfaill i dad Niclas y Glais. Ychwanegwyd hwn at y casgliad sydd gennym o ddeunydd yn ymwneud a Niclas y Glais a’i fab Islwyn Nicholas. Er bod y llawysgrifau o dan glo, mae croeso i chi ddod yma i’w gweld.
Nia Mai Daniel

