Mae cyfnod y Nadolig wastad yn gyfnod o fyfyrio ac yn sicr o fyfyrio dros Gristnogaeth a thros beth yw llwyddiant?
Felly, wrth dyrchu am bostiadau i’w rhoi ar ar ein cyfri twitter fe gofiais am arddangosfa’r Llyfrgell yn 2004 – I Achub Hen Rebel – arddangosfa i gofio canmlwyddiant Diwygiad Fawr Evan Roberts yn 1904.

Evan Roberts
Daw teitl yr arddangosfa o’r emyn enwog a gysylltir gyda’r Diwygiad. Ond mewn ffordd rhyfedd mae gwneud i mi feddwl am chwyldroadau’r Gwanwyn Arabaidd yn 2011.
Wrth ddarllen ac edrych ar y ffotos yn yr arddangosfa arlein mae rhywun yn sylwi peth mor fyw, mor gynhyrfus a mor boblogaidd oedd y Diwygiad.
Cyhoeddwyd pamffledi a chardiau post yn ystod y Diwygiad i borthi’r awch am wybodaeth (ac mae’n rhaid mewn sawl achos i wneud ceiniog neu ddwy i’r cyhoeddwr!). Cyhoeddwyd llyfrynnau o emynau’r Diwygiad yn ystod ac wedi’r Diwygiad. Lledodd y Diwygiad y tu hwn i Glawdd Offa gan gyrraedd cymunedau Cymraeg Lerpwl a’r Wladfa ac hyd yn oed yr India a Ffrainc.
Er i Evan Roberts ei hun gilio wedi’r digwyddiadau mawr ni anghofiwyd am y Diwygiad chwaith. Codwyd cofeb iddo yn 1953.
Ond y cwestiwn a drafodir gan Gristnogion ac haneswyr, yw, ai tân siafins yn unig bu’r Diwygiad? Atgofiau’r Aelod Seneddol Llafur o Ddyffryn Aman, Jim Griffiths, fel i’r Diwygiad fod o les cymdeithasol a diwydiannol – bu llai o ymladd a meddwi a bu gwell siap ar y gweithwyr yn y pyllau glo. Yn sicr, cafwyd ton newydd o Weinidogion yn sgil y Diwygiad hefyd.
Sylweddolwn i ddim fod pobl wedi bod ynpryderi cyn 1904 fod crefydd a mynychu’r capel ar ei waered cyn i’r Diwygiad ddod. Fe roddodd y Diwygiad felly hwb fawr i gapeli fel y Tabernacl yng Nghaerdydd ar adeg bwysig i grefydd. Ond o fewn blwyddyn a hanner roedd y tân eirias yn mud losgi a rhoddodd y Rhyfel Fawr, a ddechreuodd ddeng mlynedd yn hwyrach, dolc fawr i grefydd a ffydd y Cymry.
Cyfyd sawl cwestiwn am Ddiwygiad 1904. Ac i mi mae o leiaf un o’r cwestiynnau yma’n codi ynghylch y Chwyldroadau’r Gwanwyn Arabaidd 2011 hefyd. Y cwestiwn yw hyn – a yw hi’n well cael cynnydd graddol yn hytrach na clec fawr? Ydy hi’n well yn y tymor hir i ennill eneidiau neu gonsesiynnau fesul dipyn ac yn ara’ bach yn hytrach na dros nos ac mewn fflach? Pa un sy’n gadael y gwaddol fwyaf ac sy’n achub y mwyaf o eneidiau neu hawliau?
Fel ddwedais i, cyfnod i fyfyrio yw’r Nadolig!
Nadolig Llawen.
Siôn Jobbins
