‘Cardi i’r Carn, ond byth ’di bod i’r Llyfrgell’

‘Cardi i’r Carn, ond byth ’di bod i’r Llyfrgell’ yw slogan Diwrnod Agored Llyfrgell Genedlaethol Cymru a gynhelir ar ddydd Sadwrn 28 Ionawr 2012.

Penderfynnom ni ddefnyddio’r slogan gyda llun o un o gymeriadau amlwg tref Aberystwyth, Brian John – perchennog Clive’s Continental Menswear ar Ffordd y Môr.  Mae Brian yn enghraifft wych o’r union berson mae’r Llyfrgell eisiau ei weld yn yr adeilad – person busnes lleol.

Brian John, Clive's Continental Menswear, o flaen hen brif fynedfa'r Llyfrgell

Brian John o flaen yr hen brif fynedfa

Er gwaetha’r ffaith iddo gael ei eni a’i fagu ym Mhenparcau yn Aberystwyth, a’i fod yn chwarae rhan flaenllaw ym mywyd y dref a’r clwb pêl-droed, ’dyw Brian erioed wedi bod i’r Llyfrgell Genedlaethol.

Mae e’n 72 oed nawr ond yn edrych yn ifancach.  Dechreuodd weithio yn 15 oed gan gychwyn yn siop ddillad dynion Burton’s ac yna gyda siop ddillad Clive Northam a oedd yn Heol-y-Wig ar y pryd.  Cymerodd Brian berchnogaeth o’r siop dri deg mlynedd yn ôl ac mae’n dal i weithio yno gyda’i nai, Mark Clifton. Er fod Mark yn siaradwr Cymraeg rhugl a fagwyd yn Nhrefenter, fel nifer o bobl ei gyfnod a fagwyd ym Mhenparcau, dydy Brian ddim mor rhugl. Cewch wasanaeth bersonol a llawn hwyl gan y ddau yn y siop.

Er nad yw erioed wedi mynychu’r Llyfrgell, mae Brian yn falch iawn o Aberystwyth ac yn credu fod y Llyfrgell yn rhan bwysig o apêl y dre fel y brifysgol, Consti a’r castell.

Mae’r Llyfrgell yn perthyn i Gymru gyfan wrth gwrs ond mae’n bwysig fod pobl y dre hefyd yn gwybod amdano. Mae’n cliche fod pobl lleol prin yn ymweld â’r hyn sydd ar ei stepen drws. Ydy pobl Llanberis yn dringo’r Wyddfa neu trigolion Caerdydd yn ymweld â Chastell Caerdydd?

Ein ofn mawr ni yn yr Uned Hyrwyddo yw fod twrist yn dod oddi ar y trên neu’n aros mewn llety cyfagos ac yn gofyn person lleol beth allan nhw fynd i weld yn Aberystwyth.  Y pryder yw nad yw’r person lleol yn awgrymu’r Llyfrgell gan fod nhw erioed wedi bod yno na’n gwybod beth sy’n digwydd yma.  Dyna un reswm dros ganolbwyntio ar Aberystwyth eleni.

Byddwn ni’n danfon flyer allan i bob tŷ o fewn côd post SY23 ac ardaloedd deuehol SY24 ac yn y  papurau bro lleol. Mae 2,000 yn fwy o’n rhaglenni digwyddiadau hefyd wedi eu cyhoeddu a banner stryd i’w codi wythnos nesa.  Bydd dim esgus gan neb ddweud nad ydym ni wedi rhoi neges clir a chroesawgar i bobl ardal Aberystwyth a’r cylch!

Poster Diwrnod Agored gyda Brian John

Poster Diwrnod Agored gyda Brian John

Bydd y Diwrnod yn cynnwys teithiau tywys, digwyddiadau i blant, sgyrsiau am hen ffotograffau a ffilm o’r dre. Bydd y siaradwr gwadd, y darlledwr, Huw Edwards fydd yn trafod ei gyfres hanes newydd ar BBC Prydain, The Story of Wales. Bydd hefyd gwasanaeth bws am ddim bob awr o’r dre i’r Llyfrgell.

Bydd hefyd cerddoriaeth fyw, meithrinfa am ddim i blant a gwasanaeth bws am ddim o’r dre i’r Llyfrgell. Bydd caffis a siop y Llyfrgell ar agor a cheir stondinau yn arddangos eu gwasanaethau a’u cynnyrch.

Gan ein bod ni’n ffans mawr o Twitter, hashtag y dydd yw #DiwrnodAgored12 neu #OpenDay12.

 

Sian Henson

 

 

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Newyddion a Digwyddiadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

Your email address will not be published.

9,674 Spam Comments Blocked so far by Spam Free Wordpress

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>