Ffidil y sipsi

Ffidil John Roberts

Ffidil John Roberts

Er i mi fod yn gweithio yn y Llyfrgell am bron i ugain mlynedd erbyn hyn, rydw i dal i gael fy synnu at rai eitemau sydd wedi dod yn rhan o’n casgliadau.  Enghraifft o hyn oedd dod o hyd i ffidil John Roberts (Telynor Cymru 1816-1894) yn dilyn ymholiad a dderbyniwyd amdano.

Cafodd y ffidil ei roi ar adnau i’r Llyfrgell ym mis Chwefror  1996 gan Mrs Cook, Brynmawr, ac mae’r cofnod derbyn (PG 6223) yn dweud fod y ffidil yn gysylltiedig â John Roberts ‘Welsh Harpist’.  Ar yr un pryd adneuwyd medal arian ‘Telyn Rhiwpera’ (PG 6222), a enillwyd gan John Roberts yn Eisteddfod y Fenni 1848. Stad yn perthyn i’r teulu Morgan ger Tredegar oedd Rhiwpera (Ruperra) a’r teulu Morgan oedd wedi cyflwyno’r fedal ar gyfer yr Eisteddfod .

Ffidil John Roberts

Ffidil John Roberts

Tu fewn i’r ffidl mae’n dweud: “Antonius Stradivarius Cremonensis, Faciebad Anno 1713”. Truenus yw ei gyflwr erbyn hyn ac nid yw’n debyg o fod yn Strad go iawn!, ond mae arbenigwr wedi cadarnhau fod y ffidil yn dyddio o’r 19 ganrif ac felly mae’n debygol o fod wedi bod ym meddiant John Roberts. Perthynai  John Roberts i deulu’r sipsiwn Cymreig – ei ddadcu ar ochr ei fam  oedd William Wood.  Ceir manylion pellach amdano yn llyfr E. Ernest Roberts, With Harp, Fiddle and Folktale: the Story of John Roberts of Newtown, Celebrated 19th Century Welsh Harpist, Violinist and Romany Story-Teller (1981).

Dysgodd John Roberts naw o’i blant i ganu’r delyn, y ffidil, a’r ffliwt.  Tybed a yw’r ffidil i’w gweld yn y ffotograff hwn o John Roberts a’i deulu tua 1890?

Teulu John Roberts

Teulu John Roberts (Llyfr Ffoto LlGC 1034B)

 

Nia Mai Daniel

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Casgliadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>