Rwyf newydd ddechrau gweithio ar brosiect digido’r Rhyfel Byd 1914-1918 a’r profiad Cymreig a leolir yn y Llyfrgell. Bwriad y prosiect yw digido 190,000 tudalen o ddeunydd print, llawysgrifau gwreiddiol a ffotograffau, yn ogystal â 20 awr o ffilm a 50 awr o dapiau sain yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf i greu casgliad digidol unigryw. Trwy’r rhain bwriedir datgelu hanesion cudd y rhyfel a sut y gwnaeth ddylanwadu ar bob agwedd o fywyd, iaith a diwylliant Cymru. Cymru oedd y wlad â’r lefel uchaf o recriwtio yn y DU yn ystod y rhyfel, gyda llawer o’r deunydd propaganda wedi ei anelu’n uniongyrchol at y Cymry. Ymunodd dynion o bob cwr o Gymru yn y fyddin, a lladdwyd tua 35,000 ohonynt yn y brwydro.
Wrth wneud gwaith cychwynnol ar y deunydd ‘rwyf wedi dod ar draws llawer o dameidiau diddorol sydd yn archif y llyfrgell. Mewn un llythyr gwelir milwr a oedd ‘somewhere in France’ yn gorfod ymddiheuro i’w fam am orfod ysgrifennu ati’n Saesneg am nad oedd y sensoriaid yn fodlon i’r milwyr ysgrifennu adref yn Gymraeg. Mewn llythyr arall a ysgrifennwyd gan filwr ar faes y gad adref at ei fam yn Sir Aberteifi, mae’n diolch iddi am anfon ‘ffowlyn’ ato – gan bwysleisio ‘credaf ni all ei gynnwys fod yn well’. Dyma esiampl hyfryd o ofal mam at ei mab, a ffordd naturiol pobl cefn gwlad o anfon cysur i’w hanwyliaid a oedd yn dioddef erchyllterau ymhell i ffwrdd o adref. Ond tybed sut gyflwr oedd ar ffowlyn a gafodd ei bostio i Ffrainc o berfeddion cefn gwlad Sir Aberteifi? Byddai’n ddiddorol gwybod faint o amser y cymerai parsel o’r fath i gyrraedd yn y post bron ganrif yn ôl ynghanol trybini’r rhyfel. Tybed ai dyma pam mae’r mab yn pwysleisio’r ffaith iddo fod yn iach! Dwi’n siŵr y byddai rheolwyr Iechyd a Diogelwch heddiw’n arswydo o weld cyflwr y ffowlyn ar ôl iddo dreulio’r holl amser yn y parsel!
Mae nifer o lythyrau personol diddorol fel yr uchod, ynghyd a phob math o ddeunydd difyrarall am gyfnod y rhyfel wedi eu gwasgaru mewn casgliadau drwy Gymru, ond bydd eu digido yn eu huno’n gasgliad rhithiol unigryw a fydd yn ein galluogi i ddysgu mwy am Gymry’r cyfnod. Lansir y wefan ddiwedd Mehefin 2013, mewn da bryd i glymu’r prosiect a digwyddiadau coffadwriaethol eraill yng Nghymru a thu hwnt. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect drwy wylio’r cyfweliad yma ar wefan y BBC neu drwy ddarllen y datganiad i’r wasg.
Dilynwch ddatblygiad y prosiect drwy ddarllen ein blog neu drwy ddilyn #cymruww1 ar Twitter.



