Achub y Bits!

Dim mor gofiadwy â sloganau fel Glo dim clwt ond gyda’r byd cyhoeddi yn newid i gynnwys cyhoeddiadau electronig o wahanol fathau, cyhoeddiadau pwysig ar gael ar y we yn unig a chwyldro mewn cyhoeddi rhyngweithiol, mae achub y bits wedi dod yn rhan o waith craidd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar hyn o bryd, rydym yn archifo tua 900 o wefannau o ddiddordeb Cymreig am ystod eang o bynciau, gan gynnwys gwefannau llywodraeth, busnes, gwybodaeth a phersonol. Mae’r gwefannau wedyn ar gael i’w gweld fel rhan o Archif Gwefannau’r DU. Rydym yn chwilio’r we am wefannau addas, ac yn croesawi awgrymiadau.

Mae deunydd ar y we yn gwbl wahanol i ddeunydd print, felly mae’r Llyfrgell yn eu trin mewn ffordd wahanol. Mae strwythur o ddolenni cymhleth gan wefannau, maen nhw’n medru cynnwys cyfryngau megis lluniau, sain a ffilm, maen nhw’n medru bod yn rhyngweithiol, maen nhw’n diflannu, ac yn hytrach na bod yn sefydlog, maen nhw’n newid dros amser gan ychwanegu, newid a dileu cynnwys.

Felly, yn hytrach na chael un copi, mae’r Llyfrgell yn cymryd snapshots yn rheolaidd. Mae amlder y copïau yn amrywio yn ôl faint mae’r wefan yn newid, os yw cynnwys pwysig yn cael ei dileu, ac yn ôl digwyddiadau pwysig fel etholiadau, eisteddfodau ac yn y blaen. Mae’n bosibl felly cymharu fersiynau o wefannau dros amser. Rydym hefyd yn cymryd snapshot gwefannau os ydym yn ymwybodol bod gwefan ar fin cau.

Mae’r meddalwedd Web Curator Tool rydym yn ei ddefnyddio yn dilyn dolennu yn y gwefannau targed ac yn ail creu’r wefan yn yr archif. Lle bo hynny’n bosibl rydym yn cadw ffeiliau sain a ffilm fel rhan o wefannau yn yr archif.

Yn anffodus nid yw hi’n bosibl i ni gadw copi o bob gwefan rydym yn eu dethol. Mae deunydd sy’n cael ei gyhoeddi ar y we dan hawlfraint, ac rydym yn treulio llawer o amser yn gofyn am ganiatâd i gymryd copïau. Mewn nifer o achosion, mae’n anodd darganfod pwy sy’n berchen yr hawlfraint ar y wefan, ond yn y rhan fwyaf o achosion, rydym yn holi am ganiatâd ond yn methu cael ateb.

Mae Deddf Llyfrgelloedd Adnau Cyfreithiol 2003 yn agor y drws i alluogi’r llyfrgelloedd adnau cyfreithiol yn y Deyrnas Unedig gynaeafu gwefannau heb orfod gofyn am ganiatâd, ac yn dilyn ymgynghoriad, mae llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bwriad i weithredu yn y maes. Os bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dod i rym, bydd modd inni gymryd copïau o wefannau pwysig lle nad oedd modd sicrhau caniatâd oherwydd cymhlethdodau hawlfraint. Bydd yn golygu fod Cymru a’i diwylliant ar y we yn cael ei chadw a’i diogelu ar gyfer y dyfodol mew modd llawer mwy cynhwysfawr.

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Heb ei gategoreiddio. Nodwch y ddolen barhaol.

Comments are closed.



Symudwyd y cofnod hwn o'n platfform blogio blaenorol, gellir gweld y fersiwn gwreiddiol ar Archif Gwe y DU.