Ewyllys Twm Siôn Cati

Ewyllys Twm Siôn Cati

Roedd hi’n Ddiwrnod Rhyngwladol Twm Siôn Cati ar yr 17eg o Fai.  Dihiryn, rebel, tirfeddiannwr, hynafiaethydd ac achyddwr – prin fod angen cyflwyno’r dyn ei hun, mae hanesion lu yn disgrifio’i anturiaethau.  Mae dyddiad ei ddathlu yn deillio o’i ewyllys, sef 17 Mai 1608.  Yn ogystal â’r ewyllys, cedwir rhestr eiddo a bond gweinyddu, dyddiedig 25 Mai 1609, yma’n y Llyfrgell (SD1609/20).  Disgrifia’r ewyllysiwr ei hun fel “Thomas Johnes of Fountaine Gate in the parish of Caron in the countie of Cardigan, gent. being sicke in bodie….”

Gadawodd wartheg, defaid a gwely plu i’w fab anghyfreithlon John Moythe.  Rhoddodd ei holl fesiweisiau, tiroedd a daliadau, ynghyd â thlysau, plât, pres, aur, arian, prydlesi a’i holl nwyddau a phethau cartref i Johan Jones, “my loving wife”; hithau hefyd a enwir fel yr unig ysgutores.  Dengys rhestr o ddyledion fod Twm mewn dyled i “Sir Richard Price of Gogarthen” ac eraill.

Rhestr eiddo Twm Siôn Cati

Cymharol fechan oedd cynnwys ei restr eiddo, â’r cyfan werth £139-5s.  Ymhlith y da byw a nwyddau’r cartref roedd:

…kine fiftie and one price xvs a peece__________xxviiili

…five woorking nagges price xiiis iiiid a peece_____iiili vis viiid

…in plate_________________________________xiiili xiiis viiid

…in pewter vessells of all sortes_______________iiili

in bedsteedes and woodden vessells_________xls

…in naperie_______________________________xls

Tybed a ddaeth rhain i’w feddiant drwy lafur caled onest neu drwy ladrad a thwyll?

Hilary A. Peters

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Casgliadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>