Beth sy’n digwydd yn Datblygiadau Digidol dyddiau yma?

Mae’r blog yma i chi sy’n pendroni, ‘beth mae nhw’n gwneud fyny yn isadran digido?’ Dwi’n un o dîm Uned Metadata yr isadran, a hoffwn roi flas i chi o rhai o’r datblygiadau diweddaraf yn yr uned.

Un prosiect newydd sbon danlli ddechreuwyd ar 1 Ebrill yw’r ‘Rhyfel Byd 1914-1918 a’r profiad Cymreig’.  O dan arweinyddiaeth Rob Phillips bydd y prosiect yma’n digido ffynonellau gwreiddiol yn ymwneud â’r Rhyfel Byd Cyntaf i greu casgliad digidol fyddai’n datgelu hanesion cudd y Rhyfel Byd Cyntaf a’i ddylanwad ar agweddau o fywyd, iaith a diwylliant Cymru. Mae’r bwrdd prosiect cyntaf wedi’i chynnal,  mae’r sganwyr yn bwrw ymlaen gyda digido’r papurau newydd ac mae gwaith parartoadol wedi dechrau ar yr archif cyntaf i’w ddigido sef  ‘Aberystwyth Comforts for Fighters Fund’. I gael y newyddion diweddaraf ewch at flog neu gyfrif Twitter y prosiect.

Mae'r Llyfrgell yn rhan o brosiect Europeana Libraries

Prosiect ddigido arall cyffrous yw Europeana Libraries. Mae LlGC yn un o 19 llyfrgell ymchwil Ewropeaidd blaenllaw sy’n rhan o’r cynllun. Y bwriad yw cynnig mynediad di-dâl i 5 miliwn o wrthrychau digidol erbyn diwedd Rhagfyr 2012. Y datblygiad diweddaraf yw bod casgliad Tirlun Cymru (sef tua 5,000 o ddelweddau) ac oddeutu  4,000 o ddelweddau  o gasgliad ffotograffig  John Thomas wedi’u cyhoeddi ar wefannau European Library ac Europeana.

Mae llawer o weithgareddau eraill yn mynd ymlaen yn yr uned heblaw i’r prosiectau mawr – rydym yn digido llawysgrifau, mapiau, ffotograffau, posteri ac yn diweddaru Y Bywgraffiadur Arlein  Un casgliad sydd wedi mynd yn fyw ar y Drych Digidol yn ddiweddar yw darluniau John ‘Warwick’ Smith. Artist ydoedd fu’n ymweld â Chymru yn aml dros gyfnod o 22 mlynedd gan gynhyrchu lluniau dyfrlliw arbennig o dirwedd Cymru – gallwch bori trwy 162 ohonynt yn awr ar y Drych Digidol.

Dyna i chi gip olwg sydyn o beth sy’n diwgydd yn yr Uned Metadata, felly cofiwch edrych ar gasgliadau’r Llyfrgell ar eu newydd wedd yn ddigidol a byddwch yn wyliadwrus am ychwanegiadau pellach yn fuan megis Mapiau o Gymru, llawysgrifau Peniarth 482D a Salusbury a’r llawysgrif cyntaf gan ferch i’w ddigido, Llyfr Rysetiau a choginio gan Merryell Williams, Peniarth 513D.

 

Branwen Rhys

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Digido a thagiwyd fel , , . Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>