Delweddau mewn llawysgrifau Canoloesol

Yr wythnos hon, dathlwyd cyhoeddi un o’r astudiaethau pwysicaf diweddar o lawysgrifau Cymru, a hynny gyda darlith gyhoeddus yn y Drwm.
Ers rhai blynyddoedd, bu’r Dr Ceridwen Lloyd-Morgan yn llunio cyfrol ar lawysgrifau Cymru, a llawysgrifau Cymraeg, ar gyfer y gyfres ryngwladol bwysig ‘An index of images in English manuscripts from the time of Chaucer to Henry VIII’. Eisoes cyhoeddwyd yn y gyfres werthfawr hon gyfrolau ar gasgliadau llyfrgelloedd Rhydychen, Caergrawnt, y Llyfrgell Brydeinig a Gogledd America, a thro llawysgrifau Cymru yw hi bellach i gael sylw ysgolheigaidd. Mae’r gyfrol ar gael oddi wrth y cyhoeddwyr Brepols yng ngwlad Belg.
Er mai ‘English manuscripts’ sydd yn nheitl y gyfres, ychwanegodd Ceridwen lawysgrifau Cymraeg a Chymreig at ei maes llafur, a cheir yn y gyfrol restru delweddau mewn cryn nifer o lawysgrifau o’r cyfnod c. 1380-c. 1509 sydd bellach yng Nghymru a’r tu hwnt. Yn eu plith mae llawysgrifau yn Llyfrgell Caerdydd (9), Prifysgol Bangor (1), ac Archifdy Penarlâg (1), ynghyd ag enghreifftiau yng ngholeg Corpus Christi Caergrawnt (1), y Llyfrgell Brydeinig (7), Llyfrgell Bodley Rhydychen (7), Ysgol Amwythig (1), a Philadelphia (1). Gwelwyd nifer o enghreifftiau o’r delweddau hyn yn y cyflwyniad, nifer ohonynt yn cael eu hatgynhyrchu mewn du-a-gwyn yn y gyfrol.

Bucephalus, ceffyl Alecsander (Peniarth MS 481, f. 34v)

Yn naturiol, mae’r rhelyw o’r llawysgrifau a restrir yn y gyfrol yma yn y Llyfrgell Genedlaethol (99 i gyd), a gellir gweld nifer ohonynt ar ein Drych Digidol, gan gynnwys Llawysgrif Feddygol Mostyn (NLW MS 3026C), Llyfr Oriau De Grey (NLW MS 15537C), a Brwydrau Alecsander Fawr (Peniarth MS 481).
O hyn ymlaen, cyfrol Ceridwen Lloyd-Morgan fydd y man cychwyn ar gyfer astudio delweddau’r cyfnod hwn o Gymru, a gobeithiwn y bydd yn esgor ar lawer o astudiaethau pellach ar arddull, y defnydd o inc, a pherthynas delwedd â thestun.
Maredudd ap Huw

Cyhoeddwyd y cofnod hwn yn Casgliadau. Nodwch y ddolen barhaol.

Leave a Reply

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>