Wrth baratoi delweddau o Casgliad Geoff Charles ar gyfer prosiect Europeana Libraries daeth staff yn yr isadran ar draws set o oddeutu 500 o luniau heb ei chatalogio o’r Eisteddfod Genedlaethol yn Hwlffordd yn 1972 – bron union 40 mlynedd yn ôl! Ymhlith y lluniau o enwogion fel Carwyn James a Meic Stevens mae nifer fawr o luniau o rhai o’r bobl na’th ymweld â’r maes, na’th gystadlu neu oedd yn rhan o gynulleidfa’r gig roc ‘Gwallt yn y Gwynt’. Er mwyn helpu ni cychwyn adnabod rhai o’r bobl yma mae’r Llyfrgell, ar y cyd gyda Casgliad y Werin, wedi gosod chwech ar hugain o’r delweddau ar wefan Casgliad y Werin. Pam na ewch chi draw i’r wefan i weld os ydych yn nabod rhai o’r bobl neu’r digwyddiadau yn y lluniau yma? Gallwch rannu eich atgofion wrth adael sylw o dan y llun perthnasol.
Doug Jones

